Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan RosThemâu

Stori Rowenna a Siôn, mam a mab, yw’r nofel hon. Rydym yn dilyn eu profiadau wrth iddyn nhw addasu i fywyd newydd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau mawr sy’n newid cymdeithas yn llwyr.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Themâu

Dau fyd

Un thema amlwg yn Llyfr Glas Nebo yw caledi bywyd ar ôl ‘Y Terfyn’ a'r her i oroesi o ddydd i ddydd.

Nid yw’n glir beth yn union yw ‘Y Terfyn’, ond mae cyfeiriadau at sawl peth gwahanol yn digwydd dros gyfnod o amser sy’n newid bywyd bob dydd yn llwyr:

  • trydan yn diffodd
  • bomiau yn cael eu gollwng
  • ffrwydrad o gyfeiriad gorsaf ynni niwclear Wylfa (ar Ynys Môn)
  • cwmwl yn codi yn dilyn y ffrwydrad o gyfeiriad Wylfa

Isod, dyma rai darluniau sy’n dangos sut mae bywyd wedi newid i Siôn a Rowenna cyn ac ar ôl ‘Y Terfyn’:

Graffeg yn dangos lluniau o’r byd cyn ‘Y Terfyn’ ar y chwith, ac ar ôl ‘Y Terfyn’ ar y dde.
Figure caption,
Y byd cyn ‘Y Terfyn’ ac ar ôl ‘Y Terfyn’.

Question

Chwilia am ddyfyniadau o’r nofel sy’n sôn am sut mae bywyd cyn ac ar ôl ‘Y Terfyn’ yn wahanol.

Perthynas mam a mab

Dyma un o brif themâu’r nofel hon.

Mae Rowenna a Siôn yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Meddai Rowenna, “roeddan ni wastad yn dîm, Siôn a fi. Ni yn erbyn y byd...” ac mae hi’n sôn am y cyfnod cyn ac ar ôl ‘Y Terfyn’ wrth ddweud hyn.

Canolbwynt bywydau’r ddau ers ‘Y Terfyn’ yw gweithio gyda’i gilydd i gynnal eu hunain. Maen nhw’n tyfu bwyd yn y twnnel plastig ac yn chwynnu, hel priciau a chwilio’r caeau am fadarch: “dydan ni byth ar wahân...”

Maen nhw’n ymddiried yn ei gilydd yn llwyr a daw hyn i’r amlwg wrth i’r ddau addo peidio â darllen gwaith ei gilydd yn 'Llyfr Glas Nebo' (er nid yw’n glir a ydynt yn cadw at eu haddewid).

Mae yna lawer o gariad yn eu perthynas. Mae Siôn yn dwyn cerdyn pen-blwydd er mwyn ei roi i’w fam ac yn hela cwningen fel bod cig ar gael iddi ar ei phen-blwydd. Mae o’n ei helpu a’i chefnogi wrth roi genedigaeth i Dwynwen hefyd, “wnaeth e ddim dal fy llaw ond fe wnaeth i mi wenu”.

Er bod ganddo berthynas agos iawn gyda’i fam, mae Siôn yn gallu bod yn feirniadol iawn ohoni: “dwi’n gweld Mam yn wirioneddol hyll weithia”; “weithia dwi’n meddwl ei bod hi’n amhosib i rywun fod mor dlws ac mor hyll â Mam.”

Wrth i'r nofel fynd rhagddi, fe welwn nad yw’r fam a’r mab yn hollol onest gyda’i gilydd. Er enghraifft, mae Siôn yn cuddio Gwdig rhag ei fam, ac mae Rowenna’n cadw bodolaeth Gwion, tad Dwynwen, yn gyfrinach rhag Siôn, sydd hefyd yn cyflwyno’r thema o gyfrinachedd.

Mae eu perthynas yn suro ar ôl marwolaeth Dwynwen, “dydi Mam a fi ddim yn siarad yn iawn, dim fel roeddan ni o’r blaen.” Mae Rowenna yn beirniadu ffydd Siôn, ac o ganlyniad mae’r teimladau sydd ganddo tuag ati yn newid, “am eiliad, ac am y tro cyntaf erioed, roeddwn i'n ei chasáu hi.”

Serch hynny, maen nhw’n llwyddo i erbyn diwedd y nofel. Meddai Siôn, “mae Mam wedi dechrau dod yn ôl ataf i gyda’r nos, i eistedd ar ben lean-to.”

Mae Rowenna yn poeni y bydd Siôn yn gadael Nebo ac mae hi’n ymddiheuro wrtho am gadw enw ei dad yn gyfrinach rhagddo. Mae hi’n datgan ar ddiwedd y nofel, “dwi mor uffernol o falch ohona chdi, sti, Sionyn.”

Cofio / Anghofio

Thema sy’n ganolog i'r nofel hon yw’r cysyniad o gofio ac anghofio.

Mae’r cymeriadau’n cael trafferth cofio nifer o bethau. Mae Rowenna weithiau’n holi Siôn am ei atgofion o’r cyfnod cyn ‘Y Terfyn’, “ti’n cofio pitsa?” ac yntau’n methu cofio. Meddai Siôn, “dwi wedi trio a thrio, a mwya dwi’n trio, lleia dwi’n cofio. Mae o fel trio cofio breuddwyd.”“Wyt ti wir ddim yn cofio?”, mae Rowenna’n gofyn wrtho. Dydy cof Rowenna chwaith ddim yn wych. Dydy hi ddim yn siŵr pryd ddigwyddodd y ffrwydrad a’r cwmwl ddaeth yn ei sgil: “wyddwn i ddim faint o amser oedd wedi mynd heibio ers y cwmwl...” gan eu bod wedi bod yn sâl yn eu gwelyau.

Ond ambell dro hefyd, mae hi’n amlwg fod Rowenna yn dewis ‘anghofio’ rhai pethau am y gorffennol a bod hynny’n ei siwtio. Nid yw’n datgelu dim am ei rhieni ei hun. Mae hi’n nodi, “does dim angen i bopeth gael ei nodi a’i gofio.” Wrth siarad am y gorffennol gyda Siôn mae hi’n ateb, “dwi’m yn cofio.”

Yn ystod y nofel, mae Siôn yn dod i sylweddoli pŵer y weithred o ‘gofio’. Wrth feddwl am ei chwaer fach, Dwynwen, ar ôl iddi farw, mae’n dod i'r casgliad mai: “...yma fydd hi, mewn ffordd, tra bydd Mam a finna yn y byd i'w chofio hi.... fel ‘na ma pobol yn byw am byth, mae’n siŵr...”

Wrth gwrs, nofel yw hon am gymeriadau sy’n dewis a dethol beth i'w ‘gofio’ drwy ei gofnodi mewn llyfr nodiadau glas.