Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan RosIaith ac arddull - rhan 2

Stori Rowenna a Siôn, mam a mab, yw’r nofel hon. Rydym yn dilyn eu profiadau wrth iddyn nhw addasu i fywyd newydd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau mawr sy’n newid cymdeithas yn llwyr.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Iaith ac arddull - rhan 2

Brawddegau byrion

Yn aml iawn, mae brawddegau byrion yn creu tensiwn a thyndra, tra bod brawddegau hirion yn fwy disgrifiadol.

Ystyria’r frawddeg fer hon:

Mae sawl enghraifft o frawddegau byrion un gair, mewn paragraff ar eu pennau eu hunain, Beth yw arwyddocâd y canlynol ar dudalennau 71-72?

“Adar.”

“Môn.”

“Wylfa.”

Eto, beth sy’n cael ei gyfleu, ei awgrymu neu ei bwysleisio gyda’r brawddegau byrion hyn?

Personoli

Caiff nifer o bethau eu personoli yn y nofel. Ystyria’r dyfyniad canlynol:

“Mae ofn yn greadur gwahanol ers Y Terfyn. Mae o’n feddalach, am ei fod o yna o hyd, a does iddo fo ddim yr un egni ag o’r blaen.”

Beth mae Rowenna yn ei awgrymu yn fan hyn am ‘ofn’? Beth sy’n cael ei awgrymu am Rowenna fel person? Pam tybed?

Mae enghraifft arall yma:

“Cryndod a rhuo. Taran fwya’r byd. Rhywbeth blin yn llenwi’r byd, rhywbeth yn sgrechian, rhywbeth yn marw.”

Beth yn union sy’n digwydd? Pa effaith mae’r personoli yn ei gael arnoch chi? Sut awyrgylch sy’n cael ei gyfleu?

Gwrthgyferbyniad

Yn gysylltiedig â’r thema ‘Dau Fyd’ gwelwn sawl gwrthgyferbyniad rhwng y byd cyn ‘Y Terfyn’ a’r byd sy’n dilyn, ee

“Ro’n i'n arfer poeni am fedru talu bil y garej am MOT, ac am y ffaith fod fy jîns yn rhy dynn, ac am edrych yn hen. Bellach, dwi’n pryderu am y cnwd o datws a moron, ac am bobl ddrwg yn dod yma a dwyn ein pethau ni, ac am gael fy lladd, efallai, a Siôn a Dwynwen yn gorfod goroesi ar eu pennau eu hunain.”

Beth sy’n cael ei gyfleu am sut mae teimladau Rowenna wedi newid yn fan hyn? Beth sy’n cael ei awgrymu? Beth sy’n cael ei bwysleisio?

Cyfeiriadau llenyddol

Gan fod Rowenna wedi achub y llyfrau o’r Llyfrgell, mae Siôn yn darllen a chyfeirio at nifer fawr o lyfrau. Beth am wneud rhestr o’r llyfrau hynny ac arwyddocâd y llyfrau? Gelli di lunio tabl tebyg i hwn:

LlyfrArwyddocâd
Creigiau Milgwyn Grace Wynne GriffithHoff lyfr Rowenna. Gwneud iddi deimlo’n “gynnes ac yn saff bob tro”. Darllen y llyfr wrth gael poenau genedigaeth.
Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc ElisYsbrydoli Siôn i roi’r enw Gwdig ar y sgwarnog gan ei fod yn “dew ac yn chwithig ac yn normal.”
Afal Drwg Adda Caradog PrichardSiôn yn “licio darllen amdano fo [Caradog Prichard] ar ei feic yn brysio o un lle i'r llall, wastad efo rhywle i fynd.”
LlyfrCreigiau Milgwyn Grace Wynne Griffith
ArwyddocâdHoff lyfr Rowenna. Gwneud iddi deimlo’n “gynnes ac yn saff bob tro”. Darllen y llyfr wrth gael poenau genedigaeth.
LlyfrCysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis
ArwyddocâdYsbrydoli Siôn i roi’r enw Gwdig ar y sgwarnog gan ei fod yn “dew ac yn chwithig ac yn normal.”
LlyfrAfal Drwg Adda Caradog Prichard
ArwyddocâdSiôn yn “licio darllen amdano fo [Caradog Prichard] ar ei feic yn brysio o un lle i'r llall, wastad efo rhywle i fynd.”