Llinyn Trôns gan Bethan GwanasYnglŷn â’r nofel

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Ynglŷn â’r nofel

Dyluniad o'r ganolfan weithgareddau yn y nofel Llinyn Trons
Figure caption,
Dyluniad o'r ganolfan weithgareddau yn y nofel Llinyn Trôns
  • Nofel wedi ei lleoli mewn canolfan gweithgareddau awyr-agored yw Llinyn Trôns.
  • Mae’r stori’n digwydd yn ystod yr haf ar ddiwedd yr 20fed ganrif.
  • Disgyblion un ar bymtheg oed ydy’r criw sydd newydd gwblhau eu harholiadau TGAU ac yn disgwyl eu canlyniadau tra’u bod nhw yn y ganolfan.
  • Mae’r disgyblion yn dod o ysgol yng ngogledd Cymru.
  • Mae Llion, Dei, Gags, Nobi, Gwenan ac Olwen yn yr un flwyddyn yn yr ysgol. Tecs Pecs ydy eu hathro Ymarfer Corff a Donna ydy eu hyfforddwraig yn y ganolfan.