Llinyn Trôns gan Bethan GwanasY cymeriadau: Llion Jones – (Llinyn Trôns)

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Llion Jones – (Llinyn Trôns)

  • Bachgen 16 oed sydd newydd sefyll ei arholiadau TGAU.
  • Tenau iawn a chafodd y llysenw Llinyn Trôns gan ei dad pan ddaeth yn olaf yn y ras ŵy ar lwy yn yr ysgol gynradd.
  • Bachgen tawel sy’n hoffi bod ar ei ben ei hun o flaen y cyfrifiadur.
  • Ddim eisiau mynd ar y cwrs ond erbyn y diwedd mae e’n fwy hyderus ac yn mwynhau’r gweithgareddau a bod yn rhan o dîm.
  • Nobi a Gags yn gwneud hwyl am ei ben ac yn ei fwlio.
  • Ffansïo Gwenan (cariad Gags) ac yn ei snogio ar noson y disgo.
NodweddRheswmDyfyniad
Ansicr (ar ddechrau’r nofel)Cymeriad tawel sy’n cadw’i hun iddo’i hun ac yn hoff o chwarae ar ei gyfrifiadur.Mae athrawon yr ysgol yn ‘methu cofio pwy ydw i ar noson rieni’.
Cuddio’i wir deimladauAr ôl i Nobi a Gags roi ei ben i lawr y tŷ bach.‘Dw i’n tueddu i gadw’n act Vesuvius i ’nghartre.’
DideimladEfallai mai ei nerfusrwydd o gwmpas merched sy’n gyfrifol am hyn.Olwen: ‘O’n i wastad yn meddwl y byswn i’n tyfu i fyny i fod yn alarch, ond wnes i byth.’ Llion: ‘Mwy o chwadan...’
Amyneddgar a chyfeillgarWrth annog ei ffrindiau mewn gwahanol weithgareddau – gweiddi cefnogaeth ar Dei wrth ddringo i fyny’r graig ar raff, rhoi’r cyfle i Gwenan arwain gyda’r map wrth ddringo’r mynydd.‘Fyddi di’n iawn ’sti, jest mater o falans ydi o’n fwy na dim. Wyt, ti’n drymach na fi, ond ti lot cryfach hefyd.’
Hyderus (erbyn diwedd y nofel)Llwyddo mewn tasgau a gweithgareddau, bodlon rhoi cynnig ar bopeth.Wrth abseilio – ‘ro’n i’n teimlo fel plentyn chwech oed unwaith eto, ac mi ddechreuais i chwerthin – allwn i’m peidio.’
NodweddAnsicr (ar ddechrau’r nofel)
RheswmCymeriad tawel sy’n cadw’i hun iddo’i hun ac yn hoff o chwarae ar ei gyfrifiadur.
DyfyniadMae athrawon yr ysgol yn ‘methu cofio pwy ydw i ar noson rieni’.
NodweddCuddio’i wir deimladau
RheswmAr ôl i Nobi a Gags roi ei ben i lawr y tŷ bach.
Dyfyniad‘Dw i’n tueddu i gadw’n act Vesuvius i ’nghartre.’
NodweddDideimlad
RheswmEfallai mai ei nerfusrwydd o gwmpas merched sy’n gyfrifol am hyn.
DyfyniadOlwen: ‘O’n i wastad yn meddwl y byswn i’n tyfu i fyny i fod yn alarch, ond wnes i byth.’ Llion: ‘Mwy o chwadan...’
NodweddAmyneddgar a chyfeillgar
RheswmWrth annog ei ffrindiau mewn gwahanol weithgareddau – gweiddi cefnogaeth ar Dei wrth ddringo i fyny’r graig ar raff, rhoi’r cyfle i Gwenan arwain gyda’r map wrth ddringo’r mynydd.
Dyfyniad‘Fyddi di’n iawn ’sti, jest mater o falans ydi o’n fwy na dim. Wyt, ti’n drymach na fi, ond ti lot cryfach hefyd.’
NodweddHyderus (erbyn diwedd y nofel)
RheswmLlwyddo mewn tasgau a gweithgareddau, bodlon rhoi cynnig ar bopeth.
DyfyniadWrth abseilio – ‘ro’n i’n teimlo fel plentyn chwech oed unwaith eto, ac mi ddechreuais i chwerthin – allwn i’m peidio.’
Map meddwl - Llion Jones
Image caption,
Map meddwl ar gyfer y cymeriad Llion Jones o’r nofel Llinyn Trôns