Y cymeriadau: Gags
- Cariad Gwenan.
- Cyhyrog, golygus a heini ac yn gapten y tîm rygbi, pêl-droed a chriced
- Bachgen clyfar ond mae’n poeni am ei ganlyniadau TGAU.
- Gyda’i ffrind, Nobi, mae’n chwarae triciau cas ar Llion yn y ganolfan.
- Ffefryn Tecs Pecs, yr athro Ymarfer Corff, a dydy e ddim eisiau ei siomi.
- Ddim yn hoffi pobl yn chwerthin am ei ben pan mae pethau’n mynd o chwith.
- Ofni uchder ac yn methu gwneud yr abseil.
- Y gwrth-arwr sy’n marw ar ddiwedd y nofel.
| Nodwedd | Rheswm | Dyfyniad |
| Hyderus | Mae ei edrychiad, ei allu a’i gryfder yn gwneud i bobl eraill ei edmygu neu fod yn genfigennus ohono. | 'Mae o’n foi smart, tal efo six-pack. Ac yn waeth na hynny, mae o’n beniog hefyd, damia fo, ac yn gapten pob diawl o bob dim, y tîm rygbi, pêl-droed a chriced.' |
| Rhywiaethol (sexist) | Wrth weld mai merch fydd yn hyfforddi’r grŵp. | 'Jest synnu mai merch ydach chi.' |
| Cas | Tuag at Llion yn benodol, ee rhoi ei ben i lawr y tŷ bach, gwlychu ei wely, ar ôl i Llion ddewis Gwenan i arwain i ben y mynydd. | 'Gwranda ’ma’r snichyn bach slei. Dw i’n dallt dy gêm di, ond fysai hogan smart fel Gwenan byth yn sbïo ar linyn trôns pathetic fatha chdi.' |
| Balch | Nid ydy Gags yn hoffi i rywun chwerthin am ei ben neu wneud ffŵl ohono’i hun o flaen pobl eraill, ee cael ofn wrth abseilio a syrthio i’r llyn. | 'Roeddan ni i gyd yn fud, yn methu credu bod Gags, yr hogyn mawr, cry, athletaidd a oedd mor siwr ohono’i hun, yn griddfan ar ei bedwar, jest â beichio crio.' |
| Pryderus | Poeni am ei ganlyniadau TGAU ond yn methu â dweud hynny wrth neb. | Roedd mam Gags yn 'amau ers talwm ei fod o’n poeni am yr arholiadau, ond ei bod hi ofn codi’r peth efo fo. Doedd Gags ddim yn un am drafod ei deimladau'. |
| Nodwedd | Hyderus |
|---|---|
| Rheswm | Mae ei edrychiad, ei allu a’i gryfder yn gwneud i bobl eraill ei edmygu neu fod yn genfigennus ohono. |
| Dyfyniad | 'Mae o’n foi smart, tal efo six-pack. Ac yn waeth na hynny, mae o’n beniog hefyd, damia fo, ac yn gapten pob diawl o bob dim, y tîm rygbi, pêl-droed a chriced.' |
| Nodwedd | Rhywiaethol (sexist) |
|---|---|
| Rheswm | Wrth weld mai merch fydd yn hyfforddi’r grŵp. |
| Dyfyniad | 'Jest synnu mai merch ydach chi.' |
| Nodwedd | Cas |
|---|---|
| Rheswm | Tuag at Llion yn benodol, ee rhoi ei ben i lawr y tŷ bach, gwlychu ei wely, ar ôl i Llion ddewis Gwenan i arwain i ben y mynydd. |
| Dyfyniad | 'Gwranda ’ma’r snichyn bach slei. Dw i’n dallt dy gêm di, ond fysai hogan smart fel Gwenan byth yn sbïo ar linyn trôns pathetic fatha chdi.' |
| Nodwedd | Balch |
|---|---|
| Rheswm | Nid ydy Gags yn hoffi i rywun chwerthin am ei ben neu wneud ffŵl ohono’i hun o flaen pobl eraill, ee cael ofn wrth abseilio a syrthio i’r llyn. |
| Dyfyniad | 'Roeddan ni i gyd yn fud, yn methu credu bod Gags, yr hogyn mawr, cry, athletaidd a oedd mor siwr ohono’i hun, yn griddfan ar ei bedwar, jest â beichio crio.' |
| Nodwedd | Pryderus |
|---|---|
| Rheswm | Poeni am ei ganlyniadau TGAU ond yn methu â dweud hynny wrth neb. |
| Dyfyniad | Roedd mam Gags yn 'amau ers talwm ei fod o’n poeni am yr arholiadau, ond ei bod hi ofn codi’r peth efo fo. Doedd Gags ddim yn un am drafod ei deimladau'. |