Llinyn Trôns gan Bethan GwanasYmarfer ymateb i ddarn darllen

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Ymarfer ymateb i ddarn darllen

Darllena'r dyfyniad canlynol ac ateba'r cwestiwn sy’n dilyn:

'Mae ’na rwbath yn bod ar y blydi canŵ yma, Donna!'

'Sori? Glywes i rywun yn rhegi rŵan?'

Tawelwch.

'Do. Sori. Ond yli, mae ’na rwbath yn bod ar hwn, go iawn rŵan, mae’r steering wedi cocio fyny neu rwbath.'

Gwenodd Donna.

'Ocê ta, oes ’na rywun yn fodlon newid canŵ efo Nobi?'

Tawelwch eto. Roedd hi’n hollol amlwg fod ’na’m byd o’i le ar ganŵ Nobi, ac y bysai’r un peth yn union yn digwydd iddo fo mewn unrhyw ganŵ, ac y bysai hynna’n ei wylltio’n waeth. Felly mi wnes i nodio ’mhen.

'Dim ots gen i,' meddwn.

'lawn!' meddai Donna. 'Pawb i rafftio i fyny o gwmpas Nobi ’ta!'

Felly dyma ni i gyd yn canŵio ato fo a gneud math o rafft, efo’r canŵs i gyd wrth ochr ei gilydd yn wynebu’r un ffordd, a’r padls dros flaen y cychod. Padlodd Donna i’n hwynebu ni.

'Pawb i afael yn y canŵs bob ochr i chi.'

Rhegodd Nobi. Roedd o drws nesa i Dei, a doedd na’m llawer o le i roi ei law rhwng bloneg Dei a rhimyn y canŵ. Ro’n i rhwng Gags a Tecs, yn frechdan rhwng y Pecs.

'lawn,' meddai Donna. 'Nobi a Llion, newidiwch lefydd.'

'Y!' ebychodd Nobi. 'No wê!'

'Mae o’n berffaith ddiogel,' gwenodd Donna

'Ty’d, dos di ar hyd blaen y canŵs, ac mi fedar Llion fynd rownd y cefn.'

Edrychodd Nobi a finnau ar ein gilydd. Oedd hi’n cymryd y mic ’ta be?

'Dach chi’m yn fy nghredu i?' holodd Donna.

Question

Sut gymeriad ydy Nobi? Rho enghreifftiau o’r ffordd mae’n ymddwyn.