Ymarferion ysgrifenedig
Dychmyga mai ti ydy un o’r cymeriadau. Ysgrifenna ddyddiadur, ymson, llythyr personol neu ebost o safbwynt y cymeriad hwnnw.
Profa dy wybodaeth a dealltwriaeth o’r nofel a cheisia:
- gyflwyno cymaint o ffeithiau ag y galli di o’r nofel
- cyfeirio at ddigwyddiadau penodol o’r nofel
- dangos sut wyt ti (y cymeriad) yn teimlo am y cymeriadau eraill
Rho gynnig ar y cwestiwn hwn:
Question
Dychmyga mai ti ydy Gwenan. Ysgrifenna ddyddiadur cyn mynd i’r gwely ar noson y disgo. Dylet ysgrifennu tua ¾ tudalen A4.
Dyma enghraifft o ateb da iawn:
Nos Fercher y 23ain o Awst.
Dw i wedi meddwi! Ar ôl bod yn yfed fodca gydag Olwen a Llion y tu ôl i’r goeden. Ond yn waeth na hynny, dw i wedi bod yn sâl dros esgidiau Llion. Fe wnes i chwydu fy swper o sosej, bîns a tships drosto fe.
Roedden ni wedi bod yn snogio cyn hynny, y tu allan i’r disgo. Dw i’n gwybod fy mod i i fod yn gariad i Gags ond mae e wedi bod yn mynd ar fy nerfau i yn ddiweddar. Mae Llion wedi bod yn garedig gyda fi yn ystod y cwrs – gadael i fi arwain wrth ddringo’r mynydd a fy helpu i pan mae Gags yn gas.
Beth sy’n bod ar Gags? Mae e wedi bod yn ymddwyn yn od yn ystod y dyddiau diwethaf. Ydy e’n poeni am ei ganlyniadau TGAU yfory? Mae e’n siŵr o wneud yn dda. Yn llawer gwell na fi – rydw i’n dwp ac yn methu ag ateb cwestiynau ar raglenni cwis ar y teledu fel Catchphrase ac Who Wants to Be a Millionaire. Mae Gags wedi dangos ei fod e’n wan wrth fethu abseilio a phwdu yn y gweithgaredd adeiladu tîm yn y goedwig. Capten y tîm rygbi, pêl-droed a chriced yn methu gwneud rhywbeth!
Dydw i ddim yn hoffi Donna o gwbl. Mae hi’n fflyrtio gyda Gags – a Tecs Pecs! Dw i’n siŵr fy mod i wedi ei gweld hi a Gags yn mynd y tu ôl i’r cwt adnoddau gyda’i gilydd heno. Fe es i ati yn y disgo wedyn a dweud wrthi y dylai hi sticio at ddynion ei hoed ei hun! Byddwn i wedi ei tharo hi oni bai bod gen i ofn torri ewin arall.
Rydw i’n ypset iawn ar hyn o bryd. Rydw i’n difaru snogio Llion a dydy Gags ddim wedi dod i fy ngweld i cyn i fi fynd i’r gwely. Mae Olwen wedi bod yn trio rhoi cyngor i fi ar ddynion – beth mae hi’n ei wybod? Dydy hi erioed wedi cael cariad!
Nawr mae gofyn i ti fanylu ar ddigwyddiad neu olygfa felly mae’n bwysig dy fod ti’n gwbl gyfarwydd â golygfeydd allweddol yn y nofel.
Rho gynnig ar y cwestiwn hwn:
Question
Disgrifia un olygfa sy’n dangos Gags a Nobi yn ffraeo. Pam mae’r olygfa honno’n bwysig?
- Ceisia roi cymaint o fanylion ag sy’n bosib am yr olygfa gan gynnwys ambell ddyfyniad os wyt ti’n cofio rhai, yn enwedig geiriau rhai o’r cymeriadau yn y ddeialog.
Dyma enghraifft o ateb fyddai’n ennill clod uchel:
Canŵio ar y llyn. Wrth i’r criw ganŵio, mae popeth yn mynd yn iawn tan i Nobi ddechrau cwyno bod rhywbeth yn bod ar ei ganŵ a bod y “steering wedi cocio i fyny” gan ei fod yn troi mewn cylchoedd. Er mwyn profi bod dim byd yn bod ar ei ganŵ mae Donna yn gofyn iddo gyfnewid canŵ gyda Llion. Mae’r ddau ohonyn nhw’n ofnus i ddechrau ond mae Olwen yn dangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib gwneud ac yna mae Nobi’n barod i roi cynnig arni am nad ydy e eisiau i ferch wneud yn well nag e. Mae Llion yn llwyddo i wneud hyn yn hawdd. Mae Nobi yn dangos bod arno ofn ac yn cael ffit o banig a thaflu ei hun dros flaen canŵ Dei a Gwenan. Mae Gwenan yn 'sgrechian mwrdwr' a Dei yn gollwng y canŵ wrth ei ochr. Mae Nobi’n syrthio i’r dŵr gan lwyddo i droi canŵ Gags a Tecs Pecs drosodd yr un pryd! Mae Gags yn gweiddi a rhegi ar Nobi, yn ei fygwth ac yn galw enwau arno (y twat
) ond mae pawb arall yn chwerthin am eu pennau ac mae hyn yn dân ar groen Gags.
Mae’r olygfa hon yn bwysig gan ein bod ni’n gweld y tensiwn yn dechrau rhwng cymeriadau Nobi a Gags sy’n arwain at y ffrae fawr ar y graig ddringo.
Mae hi hefyd yn bwysig gan ein bod ni’n gweld y gystadleuaeth rhwng bechgyn a merched wrth i Olwen lwyddo i osod her i’r bechgyn.
Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld hyder Llion yn cynyddu wrth iddo ddechrau mwynhau ar y daith a’r ddelwedd o Gags fel rhywun sy’n llwyddiannus bob amser yn dechrau diflannu.