Themâu
Euogrwydd
Euogrwydd a chyfrinachedd ydy dwy o themâu canolog y nofel, y ddwy yn perthyn yn agos i’w gilydd.
Pwy sy’n euog, ac euog o beth? – dyna’r cwestiynau sy’n codi dro ar ôl tro wrth ddarllen Yn y Gwaed. Yn gyffredinol mae yna lawer o edliw a gweld bai a chyhuddo rhwng y tri phrif gymeriad. Mae gan bob un o’r tri le i deimlo’n euog:
- Robin – am iddo gael perthynas losgachol gyda Mared.
- Mared – am iddi ganiatáu’r berthynas losgachol.
- Robin – am lofruddio’i faban e a Mared (dyma
euogrwydd mawr ei fywyd
). - Mam – am orchymyn Robin i lofruddio’r baban.
- Mam – am roi Fo dan glo yn y llofft stabl.
Ond mae euogrwydd y tri chymeriad yn ei amlygu ei hun mewn ffyrdd gwahanol, ee:
- Hunllefau Robin ynglŷn â chael ei gosbi, a’r ffaith ei fod yn methu â chadw draw o’r Berllan lle mae’r baban wedi’i gladdu.
- Gwallgofrwydd graddol Mared.
- Y ffordd mae Mam yn gwrthod mynd yn agos at Fo. Yn ôl Mared mae ofn mawr ar Mam –
ofn afresymol yr hyn sydd tu ôl i ddrws y llofft stabal, ofn ei chydwybod ei hun
.
Cyfrinachedd
Nofel am losgach ydy Yn y Gwaed ac o gofio bod llosgach yn anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain, ac yn dabŵ cymdeithasol, nid ydy’n syndod fod cyfrinachedd yn thema amlwg. Mae’n rhaid i deulu Arllechwedd guddio cynnyrch mwy nag un berthynas losgachol neu, yn achos Mared ac ysbryd Dewyrth Ifan, yr hyn y tybir ei bod yn ‘berthynas’ losgachol:
Fo
dan glo yn y llofft stabal, allan o olwg pawb (dim ond Mared sy’n mynd i’w weld).- Baban Mared a Robin wedi’i gladdu yn y Berllan
- Ymdrech Mam i roi erthyliad cartref, yn y dirgel, i Mared.
Dyma bethau eraill sy’n pwysleisio cyfrinachedd ac arwahanrwydd bywyd yn Arllechwedd ac yn dwysáu’r argraff gyffredinol fod y lle wedi’i ynysu oddi wrth weddill cymdeithas:
- Lleoliad anghysbell Arllechwedd ym mhen ucha’r Cwm.
- Y ffaith fod gan y fferm ei chyflenwadau trydan a dŵr ei hun, a dim ffôn yno.
- Y prinder ymwelwyr a’r diffyg croeso iddyn nhw, yn enwedig gan Mam (ee Harri Llwyn-crwn).
- Dim llawer o olygfeydd yn digwydd y tu hwnt i dir y fferm.
Isod ceir dau ddyfyniad perthnasol i thema cyfrinachedd.
Dyma feddyliau Mared yn dilyn ymweliad Harri Llwyn-crwn ar ddechrau’r nofel:
Roedd yn dda bod yng nghwmni Harri unwaith eto. Syn, a deud y gwir, ei fod yn galw o gwbl, rhwng popeth, o gofio’r hyn sydd wedi digwydd ac o ystyried agwedd Mam tuag ato fo. Roedd hi fel y Gŵr Drwg ei hun bnawn heddiw. Ond dyna fo, does neb arall yn troi i mewn i Arllechwedd ’ma mwyach, ac eithrio ambell drafaeliwr bwydydd nad yw’n gyfarwydd â ni a does ’run o’r rheini’n galw eilwaith.
Sylwa hefyd ar feddyliau Parri Bach y doctor, ar ddiwedd y nofel, wrth gyrraedd Arllechwedd ar ôl cael ei alw yno i weld Mared, sy’n wael iawn yn dilyn ymdrech Mam i roi erthyliad iddi. Mae hyn yn gyfrwng i’r awdur grynhoi’r gwahanol sïon sydd o gwmpas yr ardal ers blynyddoedd ynghylch y teulu a’i hanes o losgach:
Dyna pryd y clywyd sŵn car yn sgathru ar wyneb y buarth a heb guro na dim cerddodd yr hen Barri Bach i mewn i’r gegin. Bu’n meddyginiaethu yn yr ardal ers deugain mlynedd bron, eto i gyd, dyma’r eildro erioed iddo gael ei alw i Arllechwedd, y tro cyntaf bedwar mis yn ôl pa fu bron i Robin-Dewyrth-Ifan ‘fynd i ffordd yr holl ddaear’, chwedl Evan Thomas y ficar. Ond er lleied ei ymwneud â’r teulu, fe glywsai’r doctor lawer stori amdanyn nhw dros y blynyddoedd – am hen ewythr oedd hefyd yn gywely a thad, am forwyn ifanc, flynyddoedd yn ôl, a roddodd enedigaeth ei hun i’w dau blentyn, am drydydd plentyn efallai na welodd erioed olau dydd, am ferch a fu’n cario am fisoedd ac a esgorodd ar ddim! Clebar cefn gwlad mae’n siŵr, ond doedd dim mwg heb dân chwaith.