Yn y Gwaed gan Geraint V JonesY cymeriadau: Robin

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes teulu sy'n byw ar fferm fynyddig Arllechwedd a'r cyfrinachau maen nhw am eu cuddio. Mae'n ymdrin â llosgach a dwy thema ganolog y nofel ydy euogrwydd a chyfrinachedd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Robin

Rwy’n siŵr bod Robin yn gwaethygu. Mae arnaf ofn ei lygaid yn ddiweddar. Nid wyf yn siŵr beth a welaf ynddynt, ai gorffwylledd ynteu atgasedd pur. Fe welaf y cyhuddiad yno o hyd, a’r euogrwydd. Ni all ddianc rhag ei euogrwydd, hyd yn oed berfedd nos, ond rhaid iddo ymgodymu fel y gweddill ohonom. Mae’r cynnwrf yno o hyd hefyd. Fe’i gwelais yn ei lygaid neithiwr. Na, all y ffŵl gwirion ddim dianc rhagddo ef ei hun.

Dyma ddisgrifiad o Robin gan ei chwaer Mared yn y darn cyntaf o’i dyddiadur a geir yn y nofel. Mae hyn drannoeth un o hunllefau Robin. Mae’r darn yn crynhoi’r tri phrif emosiwn sy’n effeithio ar Robin ac yn llywio ei weithredoedd:

  • euogrwydd ers iddo ladd ei faban e a Mared
  • atgasedd tuag at Mam oherwydd mai hi wnaeth ei orfodi i lofruddio’r baban (dyma’r cyhuddiad yn ei lygaid)
  • atyniad rhywiol tuag at Mared – mae hi’n cyfeirio ato fel cynnwrf (llosgach ydy pwnc y nofel)
Wrth iddo adael i’w lygaid grwydro dros y tir o bobtu’r afon, daeth iddo [sef Robin] deimlad yr oedd yn hen gynefin ag ef; y teimlad o berthyn i’r tir hwn ac i’r lle arbennig hwn. Nid teimlad o berchnogaeth mohono. Pe bai ynddo’r gallu i ymresymu’n ddwys mi fyddai Robin wedi ceisio meddwl pam yr ymlyniad at erwau oedd mor foel a dilewyrch; a byddai wedi sylweddoli bod ei wreiddiau mor ddwfn yn naear garegog y llechweddau hyn oherwydd mai hi oedd swm a sylwedd ei fywyd a bod pob mangre arall yn llawn dieithrwch ac ansicrwydd iddo: y Graig Wen, y Graig Goch a’r Grawcallt oedd ei derfynau ac fel pob hen ddafad fe fodlonai ar wneud y gorau o’r gwaethaf o’i gynefin. Bodlonai ar fod yn anfodlon. A phwy bynnag neu beth bynnag a ddeuai i fygwth ei ddiogelwch, i newid mewn unrhyw fodd y patrwm oedd mor gyfarwydd iddo ac yr oedd ef mor ddibynnol arno, yna, fel Mic ar y buarth neu unrhyw hen gi gwerth ei halen, mi fyddai Robin hefyd yn coethi ac yn dangos ei ddannedd, heb ddeall yn iawn pam.

Mae’r darn uchod o’r nofel yn disgrifio perthynas Robin gyda’i gynefin – tir Arllechwedd a gweddill y Cwm – a’i deimladau wrth synhwyro bod yr ardal ar fin newid yn llwyr yn sgil dyfodiad mewnfudwyr. Mae hefyd yn grynhoad da o bersonoliaeth Robin:

  • Mae’n tueddu i weithredu yn ôl ei reddf yn hytrach nag yn ôl ei reswm.
  • Sylwa ar y ddwy gymhariaeth addas iawn o fyd ffermio – mae Robin:
  1. fel dafad sy’n gwneud y gorau o’r borfa brin ar dir mynyddig, gwael;
  2. fel ci defaid yn y ffordd chwyrn y mae’n ymateb i unrhyw newid.

Dyma rai nodweddion eraill sy’n perthyn i gymeriad Robin:

  • Mae’n styfnig a phenderfynol.
  • Mae’n cael pleser mewn pethau syml, ee cael egwyl a mygyn rhwng gorchwylion ar y fferm, ysbeidiau prin o heddwch ar yr aelwyd.
  • Mae’n naïf iawn, ee yn rhoi capel Gilgal ar dân mewn ffordd sy’n ei arwain yn syth i ddwylo’r heddlu; ac yn ei ymateb i gyflwr difrifol Mared yn dilyn yr erthyliad, gan gredu stori Mam mai ffliw sydd arni.
  • Mae ei ffordd araf a phwyllog yn cuddio cynnwrf emosiynol mawr. Nid ydy’n gwybod sut i fynegi ei deimladau cymysglyd, ond mae ei hunllefau cyson am gael ei gosbi mewn ffyrdd erchyll yn datgelu ei gydwybod euog ynglŷn â’r baban a lofruddiodd.