Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigAtgyfodiad

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Atgyfodiad

Nid yw amser Iesu ar y Ddaear yn gorffen â marwolaeth Iesu. Mae atgyfodiad Iesu yn gwireddu'r broffwydoliaeth y byddai Mab y Dyn yn cyfodi eto.

Ar fore'r dydd Sul, mae'r Efengyl yn ôl Luc yn datgan bod rhai o'r gwragedd wedi mynd i ymweld â bedd Iesu i eneinio ei gorff. Pan gyrhaeddodd y gwragedd, fe welon nhw fod y garreg oedd yn gorchuddio'r bedd wedi rholio i ffwrdd ac ymddangosodd dau ddyn mewn dillad disglair o'u blaenau nhw. Gofynnodd y dynion i'r gwragedd:

Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi.
Luc 24:5

Aeth y gwragedd i ddweud wrth yr apostolion, ond wnaeth yr apostolion ddim eu credu nhw, felly rhedodd Pedr at y bedd a'i weld yn wag, yn union fel roedd y gwragedd wedi'i ddweud. Daeth yn ôl yn syfrdan wrth yr hyn yr oedd wedi'i weld.