Gwneud penderfyniadau moesegol
Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod bodau dynol yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, neu os ydyn nhw'n gwneud y peth iawn neu beidio.
Weithiau, ni fydd pobl bob amser yn dewis gwneud y peth iawn, ond mae'r gallu ganddynt i ddeall pan mae rhywbeth yn ddrwg.
Mae gan Gristnogion wahanol gredoau ac agweddau o ran gwneud penderfyniadau moesegolYn ymwneud â’r hyn sy’n iawn neu ddim yn iawn, ee mae cwmnïau moesegol fel arfer yn rhai sy’n ymddwyn yn gyfrifol.. Mae’r rhain yn cynnwys:
- damcaniaeth gorchymyn dwyfol
- moesoldeb absoliwt
- moesoldeb berthynol
- moeseg sefyllfaol
Agweddau tuag at wneud penderfyniadau
Mae sawl ffordd i ddod i benderfyniad, a phob agwedd ag elfennau cadarnhaol a negyddol.
Mae dwy ddamcaniaeth wahanol:
- damcaniaeth foesegol, sy'n ystyried a yw'r gweithredoedd eu hunain yn dda neu'n ddrwg
- damcaniaeth deleologol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau'r gweithredoedd, ac os ydyn nhw'n dda neu'n ddrwg