Dameg y Samariad Trugarog
Defnyddiodd Iesu Ddameg y Samariad Trugarog fel enghraifft o garu pobl sydd ddim yn ffrindiau i ni.
Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid
Dysgodd Iesu ei ddilynwyr i wneud y canlynol:
Câr dy gymydog fel ti dy hun.
Gofynnodd rhywun i Iesu gadarnhau beth roedd yn ei olygu â'r gair 'cymydog'. Dyma pryd adroddodd Iesu Ddameg y Samariad Trugarog (Luc 10:25-37), i esbonio y dylai pobl garu pawb, gan gynnwys eu gelynion. Mae hi'n hawdd caru ffrindiau a theulu, ond mae hi'n llawer anoddach caru pobl nad wyt ti'n cyd-dynnu'n dda â nhw, neu hyd yn oed bobl allai dy niweidio neu dy frifo di. Dangos cariad at dy elynion yw caru'n wirioneddol fel Crist.
Dameg y Samariad Trugarog
Yn Nameg y Samariad Trugarog, mae Iesu'n defnyddio enghraifft yr Iddew a'r Samariad, na fyddai fel arfer yn gyfeillgar tuag at ei gilydd. Fodd bynnag, o bawb allai fod wedi helpu'r Iddew, dim ond y Samariad wnaeth hynny. Mae Iesu yn sôn am ddyn oedd yn teithio o Jerusalem i Jericho pan ymosododd lladron arno ar y ffordd. Cafodd ei guro'n ddrwg a'i adael i farw.
Offeiriad oedd y cyntaf i fynd heibio i'r dyn oedd wedi'i anafu. Ond croesodd y ffordd a cherddodd i ffwrdd.
Lefiad, sef cynorthwyydd offeiriad, oedd yr ail i fynd heibio i'r dyn oedd wedi'i anafu. Croesodd ef y ffordd hefyd a dal i gerdded heb helpu'r dyn.
Samariad, sef rhywun o Samaria, oedd y trydydd person i ddod heibio. Roedd yr Iddewon yn casáu'r Samariaid. Pan welodd y Samariad y dyn, tosturiodd wrtho. Aeth ato a glanhau ei glwyfau a rhoi rhwymau arno. Yna, rhoddodd ef ar gefn ei ful ac aeth ag ef at westeiwr, a'i dalu i ofalu amdano.
Ar ddiwedd y ddameg, mae Iesu'n rhoi gorchymyn i wneud yr hyn wnaeth y Samariad. Mae'r Efengyl yn ôl Mathew hefyd yn sôn am ddysgu i garu gelynion fel hyn.