MoesoldebDamcaniaeth gorchymyn dwyfol

Archwilia beth mae'r Iesu yn ei ddysgu am foesoldeb, gan gynnwys cariad a maddeuant a'r gwahanol ymagweddau at wneud penderfyniadau.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Damcaniaeth gorchymyn dwyfol

yw'r gred fod pethau'n iawn oherwydd bod Duw yn eu gorchymyn i fod felly. Mewn geiriau eraill, mae'n golygu bod pethau sy'n cael eu hystyried yn ddrwg neu'n anfoesegol yn ddrwg am fod Duw wedi eu gwahardd nhw.

Damcaniaeth absoliwtaidd yw hon. Mae hyn yn golygu nad oes trafodaeth ynglŷn â pha mor dda neu ddrwg yw gweithred. Mae'r ddamcaniaeth gorchymyn dwyfol yn diffinio gweithred fel un dda neu un ddrwg, yn unol ag os yw'n cefnogi gorchmynion Duw ai peidio.

Mae unrhyw weithred sy'n mynd yn groes i'r hyn mae Duw wedi ei orchymyn yn cael ei ddiffinio yn ddrwg, dim ots beth yw'r sefyllfa neu'r amgylchiadau. Mae agwedd absoliwtaidd yn golygu bod y penderfyniad a'r canlyniad wastad yr un peth.

Pwyntiau cadarnhaol

  • Does dim amwysedd wrth wneud penderfyniadau.
  • Mae cyfres o ganllawiau i'w dilyn.
  • Fydd emosiynau ddim yn effeithio ar farn rhywun.

Pwyntiau negyddol

  • Mae pob sefyllfa yn wahanol, ac felly angen ymateb gwahanol.
  • Er mwyn bod yn fodau dynol moesol, dylai pobl wneud eu penderfyniadau eu hunain yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau yn unig.

Question

Esbonia beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth 'ddamcaniaeth gorchymyn dwyfol'.

Moesoldeb absoliwt

yw'r gred fod pethau rydyn ni'n eu gwneud yn gynhenid dda neu ddrwg. Mewn geiriau eraill, mae bod yn dda ac yn ddrwg yn ffaith.

Enghraifft o foesoldeb absoliwt

Mae pob rheol, fel 'mae dwyn yn ddrwg' ac 'mae dweud celwyddau'n ddrwg', yn cael ei hystyried yn ddilys ym mhob sefyllfa, o dan unrhyw amgylchiadau.

Moesoldeb berthynol

yw'r gred na fod modd ystyried bod ymddygiad arbennig yn dda neu'n ddrwg, heb edrych ar gyd-destun y sefyllfa, ee mae'n dibynnu ar:

  • sefyllfaoedd personol
  • cyd-destun cymdeithasol
  • cyd-destun diwylliannol

Mae perthynolwyr yn cytuno bod angen i bobl fyw yn ôl egwyddorion moesol. Fodd bynnag, byddent yn dweud bod angen addasu'r egwyddorion moesol hyn o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar gyd-destun y sefyllfa arbennig.

Enghraifft o foesoldeb berthynol

Yn gyffredinol, mae pawb yn ystyried bod dweud celwyddau yn beth drwg. Ond beth os oes angen dweud celwydd er mwyn achub bywyd rhywun? Ddylet ti wrthod dweud y celwydd, gan fod hynny'n cael ei ystyried yn anfoesol? Neu fyddai hynny'n dderbyniol yn y sefyllfa hon, gan dy fod ti'n dweud y celwydd i achub bywyd rhywun?