Trysorau ar y Ddaear ac yn y Nefoedd
Yn yr Efengyl yn ôl Mathew, mae Iesu yn nodi'r gwahaniaeth rhwng trysorau ar y Ddaear ac yn y Nefoedd.
Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y Nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.
Neges y ddysgeidiaeth hon yw bod nwyddau'r Ddaear yn gallu cael eu dwyn, neu hyd yn oed cael eu difetha, ond bod gweithredoedd da yn fwy ysbrydol ac y caiff eu gwerth ysbrydol ei ddatguddio ar ôl marwolaeth.
Mae'r dyfyniad hwn yn diffinio'r gwahaniaeth rhwng y ddau fath o gyfoeth:
- mae trysorau ar y Ddaear dros dro yn unig, yn faterol ac yn gyfyngedig
- mae trysorau yn y Nef yn dragwyddol
Does dim cymhariaeth rhwng cyfoeth ar y Ddaear a thrysor yn y Nefoedd. Er mwyn ennill trysor nefol, rhaid i unigolyn hepgor temtasiwn ar y Ddaear, ac os yw'r person yn gyfoethog, yna dylai gael gwared o'i gyfoeth a'i ddefnyddio i helpu'r anghengus yn hytrach na'i roi i'w gadw.
Mae Cristnogion yn credu ei bod hi'n bwysig gwneud gweithredoedd da yn ystod eu hamser ar y Ddaear, er mwyn cael eu gwobrwyo mewn bywyd tragwyddol. Rhaid i'r gweithredoedd da hyn fod wedi'u cymell gan gariad ac o fudd i bobl eraill.
Mae Cristnogion yn credu, yn ogystal â bod gweithredoedd da'n cael eu gwobrwyo mewn bywyd tragwyddol, bod gweithredoedd drwg yn cael eu cosbi, felly byddan nhw'n ceisio gwneud y peth iawn bob amser.