Y Drindod
Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn un, ond bod modd ei adnabod ar dair ffurf wahanol:
- Duw y Tad
- Duw y Mab
- Duw yr Ysbryd Glân
Mae'r term yr Iesu fel Duw Ymgnawdoledig, yn cyfeirio at y syniad mai Iesu yw Duw ar ffurf bod dynol. Dyma'r rhan o'r Drindod sy'n cael ei alw'n 'Duw y Mab'.
Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi dod yn ddyn yng nghorff Iesu, yn gwbl ddynol ac eto yn gwbl ddwyfol ar yr un pryd.
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Question
Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth ymgnawdoliad?
Mae'r term ymgnawdoliad yn golygu ‘wedi'i wneud yn gnawd’. Dyma'r gred Gristnogol mai Iesu yw Duw ar ffurf ddynol. Dyma'r rhan o'r Drindod a elwir yn ‘Duw y Mab’.