Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigYr esgyniad

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Yr esgyniad

Ar ôl atgyfodiad Iesu, treuliodd amser gyda'r apostolion a dywedodd wrthynt y byddai Duw yn anfon yr Ysbryd Glân i lawr atynt yn union fel roedd ef wedi'i addo.

Anfonodd Iesu yr apostolion allan i ddweud wrth bobl amdano ef ac am ei ddysgeidiaeth. Arweiniodd nhw allan i Fethania, y tu allan i'r ddinas, a'u bendithio nhw.

Yna, aeth i fyny i'r Nefoedd mewn cwmwl. Yna, ymddangosodd dau ddyn mewn dillad gwyn, a gofynnodd y dynion pam roedden nhw'n edrych tua'r Nef. Meddai'r dynion:

Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef.
Actau 1:11

Mae'r yn dangos Iesu yn dychwelyd at ei Dad ac yn ddiweddarach ar adeg y Pentecost daeth yr Ysbryd Glân i lawr ar yr apostolion, yn union fel roedd Iesu wedi'i addo.