Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigYr Iawn

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Yr Iawn

Mae'r term iawn yn cyfeirio at y gred fod marwolaeth Iesu ar y groes wedi datrys y problemau rhwng bodau dynol a Duw. Dechreuodd y problemau hyn gydag Adda ac Efa, a aeth yn groes i ddymuniad Duw drwy fwyta'r ffrwyth oddi ar y goeden yng Ngardd Eden.

Y gred yw fod marwolaeth Iesu ar y groes yn gwneud iawn am bechodau bodau dynol. Mae'r Efengyl yn ôl Ioan yn disgrifio Iesu fel hyn:

...Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd!
Ioan 1:29

Y Gair

Mae'r Efengyl yn ôl Ioan yn cyfeirio at Iesu fel y Gair. Dydy union ystyr hyn ddim yn glir, ac mae gwahanol Gristnogion yn ei esbonio mewn gwahanol ffyrdd. Mae Ioan 1:1 yn datgan bod y gair yn bodoli yn y dechreuad.

Mae'r Efengyl yn ôl Ioan yn dechrau drwy ddisgrifio Iesu fel y Gair, sef Gair Byw Duw. Iesu yw'r Gair a gafodd ei yn yr Hen Destament, wedi’i wneud yn gnawd a'i ddatguddio gan Dduw i fodau dynol ar y Ddaear. Yn yr Hen Destament, cafodd y Gair ei ddatguddio drwy'r proffwydi, ond yn y Testament Newydd mae'r Gair yn cael ei ddatguddio drwy berson Crist.

A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.
Ioan 1:14