Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigBywyd Iesu

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Bywyd Iesu

Mae digwyddiadau bywyd Iesu yn ganolog i'r ffydd Gristnogol, ac mae llawer o ddysgeidiaethau'r Eglwys yn seiliedig ar y digwyddiadau hyn. Heb i Grist gael ei ar y Ddaear, fyddai'r ffydd Gristnogol ddim yn bodoli.

Mae pedwar digwyddiad allweddol ym mywyd Iesu yn cynnig prawf a thystiolaeth mai ef yw Duw Ymgnawdoledig ac yn gwireddu proffwydoliaethau'r Hen Destament. Dyma'r pedwar digwyddiad hyn:

  • genedigaeth
  • croeshoeliad a marwolaeth
  • atgyfodiad
  • esgyniad

Genedigaeth Iesu

Cafodd genedigaeth Iesu ei chyhoeddi i Mair gan yr Angel Gabriel. Cytunodd Mair â chynllun Duw ei bod hi'n cludo Mab Duw. Cafodd Mair ei dewis yn benodol, oherwydd hi oedd y .

Meddai'r angel wrthi, 'Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu'.
Luc 1:30-31

Mae'r efengylau'n datgan bod Mair a Joseff wedi gorfod teithio i Fethlehem, oherwydd bod cyfrifiad wedi'i alw a bod rhaid i bawb ddychwelyd i'w dref enedigol. Oherwydd y cyfrifiad, roedd Bethlehem dan ei sang a ganwyd Mab Duw i Mair mewn stabl.

...ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
Luc 2:7

Mae'r Efengylau yn ôl Mathew a Luc yn sôn am ymwelwyr â'r baban newydd. Yn yr Efengyl yn ôl Mathew, mae'r yn dod i ymweld â'r baban newydd ac yn dod â rhoddion o aur, thus a myrr iddo ar ôl dilyn seren i ddod o hyd i'r plentyn. Mae’r rhoddion hyn yn arwydd o sancteiddrwydd a brenhindod – maen nhw'n arwydd bod y baban yn frenin.

Yn yr Efengyl yn ôl Luc, mae'r bugeiliaid yn dod i addoli a moli'r baban newydd. Mae'r bugeiliaid tlawd a chyffredin yn dangos bod Iesu wedi dod i wasanaethu a gwaredu pawb o bob hil a chefndir.

Question

Disgrifia'r credoau Cristnogol am enedigaeth Iesu.