Natur DuwBodolaeth Duw

Mae Cristnogion yn credu mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yw creawdwr a chynhaliwr y byd. Maen nhw'n credu bod Duw yn dri Pherson – y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân – sef y Drindod.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Bodolaeth Duw

Wrth ystyried cwestiwn bodolaeth Duw, dyma dri safbwynt gwahanol i'w hystyried:

  • Theistiad – rhywun sy’n credu bod Duw’n bodoli. Nid yw theistiaid o reidrwydd yn credu eu bod yn gallu profi bod Duw’n bodoli.
  • Agnostig – rhywun sydd o’r farn ei bod yn amhosibl gwybod y gwir am rai pethau, fel bodolaeth Duw neu fywyd ar ôl marwolaeth.
  • Anffyddiwr – rhywun sydd o’r farn nad oes Duw. Nid yw anffyddwyr o reidrwydd yn credu eu bod yn gallu profi bod anffyddiaeth yn wir.