Delwedd o Dduw
Mae Cristnogion yn credu bod bodau dynol wedi'u creu ar ddelwedd o Dduw. Mae union ystyr hyn wedi bod yn destun dadl. Ond mae pob Cristion yn derbyn ei fod yn cyfeirio at y syniad fod bodau dynol wedi’u creu i fod yn ‘debyg’ i Dduw.
Nid yw hyn yn golygu bod dynol ryw yn debyg i Dduw o ran pryd a gwedd, ond eu bod wedi cael yr un rhinweddau meddyliol, moesol a chymdeithasol â Duw. Un peth sy'n glir yw mai bodau dynol yw'r unig ddarn o'r creu sy'n ddelwedd o Dduw. Felly mae bodau dynol yn cael statws uwch.
Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy’n ymlusgo ar y ddaear.” Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
Beth mae 'delwedd o Dduw' yn ei olygu i Gristnogion?
Bydd gan wahanol Gristnogion ddealltwriaeth wahanol o ystyr 'delwedd o Dduw'. Mae rhai pobl yn credu bod hyn yn golygu bod dynol ryw yn rhannu rhinweddau a natur Duw, neu bod dynol ryw yn cynrychioli Duw ar y Ddaear. Mae'r Eglwys Gatholig yn datgan ei fod yn eu galluogi nhw i fod mewn cymundeb â Duw, ac yn rhoi cyfrifoldeb iddyn nhw dros ei greu. Mae gan fodau dynol awdurdodI reoli rhywbeth, yn yr achos hwn bodau dynol yn rheoli’r byd. dros y byd a stiwardiaethDyletswydd ar fodau dynol i ofalu am y byd a chynnal cydbwysedd ym myd natur. dros y tir.