Natur DuwNatur Duw

Mae Cristnogion yn credu mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yw creawdwr a chynhaliwr y byd. Maen nhw'n credu bod Duw yn dri Pherson – y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân – sef y Drindod.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Natur Duw

Mae sawl ffordd i ddisgrifio natur Duw o safbwynt Cristnogol.

  • Undduwiaeth – mae Cristnogion yn credu mai dim ond un Duw sydd. Maen nhw’n undduwiaid.
  • Trindod – mae’r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu bod tri Pherson ar wahân i’r un Duw hwn a bod y tri Pherson hyn yn ffurfio undod (y tri yn un). Dyma athrawiaeth y Drindod:
    • Duw’r Tad – creawdwr a chynhaliwr pob peth.
    • Duw’r Mab Duw yn fod dynol, Iesu Grist, ar y Ddaear.
    • Duw’r – nerth Duw sy’n weithredol yn y byd, yn tynnu pobl tuag at Dduw.
  • Sanctaidd – ‘arall’ yw Duw, gwahanol i unrhyw beth arall – ar wahân a .
  • Hollalluog – mae Duw yn gallu gwneud popeth - hynny yw, mae popeth sy’n gyson â natur Duw yn bosibl.
  • Hollwybodus – mae Duw’n gwybod popeth, o ran y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
  • Hollgariadus – mae Duw yn hollol ddaionus ac yn caru’n ddiamod.
  • Hollbresennol – mae Duw’n bresennol ym mhob man.