Y Drindod
Mae’r Drindod yn cyfeirio at y syniad mai un yw Duw, ond ei fod yn bodoli mewn tri Pherson ar wahân. Mae’r gair ‘trindod’ yn dod o’r gair ‘tri’ a’r gair ‘undod’, sef ‘un’.
Mae Cristnogion yn credu bod tri Pherson ar wahân i’r un Duw hwn a bod y tri Pherson hyn yn ffurfio undod (y tri yn un). Dyma athrawiaeth y Drindod:
- Duw’r Tad – creawdwr a chynhaliwr pob peth.
- Duw’r Mab – ymgnawdoliadY ddysgeidiaeth fod Duw wedi mabwysiadu ffurf ddynol yn Iesu Grist. Hefyd, y gred fod Duw yng Nghrist yn weithgar yn yr Eglwys ac yn y byd. Duw yn fod dynol, Iesu Grist, ar y Ddaear.
- Duw’rYsbryd GlânTrydydd Person/elfen y Drindod. Yn weithredol fel presenoldeb a nerth Duw yn y byd. – nerth Duw sy’n weithredol yn y byd, yn tynnu pobl tuag at Dduw.
Duw’r Tad
Mae Cristnogion yn cyfeirio at Dduw fel y Tad. Ystyr hyn yw mai Duw oedd creawdwr y byd a phopeth ynddo. Ef yw tad y bydysawd.
Mae Duw hefyd yn cael ei adnabod fel tad cariadus. Mae hyn yn golygu ei fod yn gofalu am, ac yn caru dynol ryw, yn union fel mae tad yn caru ei fab. Mae hyn i'w weld yn Nameg y Mab Afradlon (Luc 15:11-32).
Yn y ddameg, er gwaetha'r ffaith fod y mab wedi afradloni ei etifeddiaeth gynnar, mae'r tad yn ei groesawi yn ôl i'r cartref â breichiau agored a dathliad. Yn yr un ffordd, mae Duw yn croesawu rheiny sydd wedi pechu ac sydd nawr yn ceisio cael eu hailgymodi gydag ef.

Mae Duw hefyd yn cael ei adnabod fel tad Iesu Grist, gan fod Iesu wedi hawlio bod ganddo berthynas arbennig gyda Duw.
Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a phwy bynnag y mae’r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.
Duw’r Mab
Mae Duw’r Mab yn cyfeirio at Iesu Grist, Mab Duw. I Gristnogion, Iesu fel Duw ar ffurf ddynol yw hwn, a gafodd ei anfon i achub dynol ryw. Cafodd ei aberthu er pechodau dynol ryw, sy'n eu galluogi nhw i ailymuno gyda Duw ar ôl marw. Iesu Grist yw Duw yn ymgnawdoledig ar y Ddaear - A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith
(Ioan 1:14).
Mae Cristnogion yn credu bod y Mab yn bresennol pan gafodd y bydysawd ei greu, ond doedd e ddim yn ei ffurf ddynol bryd hynny. Dewisodd Duw ddatguddio ei hun fel bod dynol, er mwyn lledu ei ddysgeidiaeth, dangos sut dylai pobl byw eu bywydau, ac er mwyn cynrychioli dynoliaeth ar gyfer eu hachubiaeth.

Duw’r Ysbryd Glân
Yr Ysbryd Glân yw nerth Duw wrth waith ar y Ddaear. Yn yr ysgrythau, mae'r Ysbryd Glân yn aml yn cael ei ddylunio ar ffurf gwynt, tân neu golomen. Drwy rym a gwaith yr Ysbryd Glân mae Duw yn cael ei adnabod heddiw, a dyma sut mae Cristnogion yn deall beth mae Duw eisiau iddyn nhw ei wneud.
Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi. Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
Drwy'r Ysbryd Glân hefyd mae Cristnogion yn derbyn gras a rhoddion gan Dduw, megis ffydd a hunanddisgyblaeth:
...ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
Mae’r Ysbryd Glân yn gysylltiedig â bywyd a’r enaid. Wrth greu Adda, anadlodd Duw fywyd iddo. Mae Cristnogion yn credu hefyd mai trwy’r Ysbryd Glân daeth Mair yn feichiog gyda Iesu.
Mae Cristnogion yn credu bod yr Ysbryd Glân yn parhau i weithredu drwy bobl, gan gynhyrchu rhinweddau sy’n dangos gwir Gristion.
