Creu'r bydysawd
Yn ôl credoau Cristnogol, Duw greodd y bydysawd.
Mae dwy stori am sut creodd Duw y bydysawd, ac mae'r rhain yn nechrau llyfr GenesisLlyfr cyntaf yr Hen Destament (y Beibl Hebraeg) sy'n disgrifio tarddiad dynoliaeth a pherthynas pobl â Duw. yn y Beibl. Mae rhai Cristnogion yn meddwl am Genesis 1 a Genesis 2 fel dwy chwedlStori draddodiadol sydd yn cael ei rhannu o fewn cymuned. Syniad sydd yn cael ei gredu gan lawer ond sydd ddim yn wir. gwbl wahanol ag ystyr tebyg. Mae eraill yn gweld y ddwy bennod fel rhan o un stori barhaus.
Genesis 1
Mae Genesis 1 yn dechrau gyda'r geiriau canlynol:
Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni.
Mae'n parhau gyda stori'r creu:
- yn y dechreuad - Duw yn dechrau'r creuY weithred o roi bodolaeth i rywbeth. Mewn crefydd, mae hyn yn cyfeirio at Dduw yn creu'r byd.
- y diwrnod cyntaf - creu golau
- yr ail ddiwrnod - creu'r awyr
- y trydydd diwrnod - creu tir sych, moroedd, planhigion a choed
- y pedwerydd diwrnod - creu'r Haul, y Lleuad a'r sêr
- y pumed diwrnod - creu creaduriaid sy'n byw yn y môr a chreaduriaid sy'n hedfan
- y chweched diwrnod - creu anifeiliaid sy'n byw ar y tir ac yn olaf bodau dynol, ar ddelwedd o Dduw
- erbyn diwrnod saith - roedd Duw wedi gorffen ei greu a gorffwysodd, sy'n gwneud y seithfed diwrnod yn ddiwrnod sanctaidd arbennig
Genesis 2
Yn Genesis 2, mae rhai pobl yn meddwl bod y stori'n mynd ymlaen i roi mwy o fanylion am greu bodau dynol, sy'n cael eu gweld fel dau unigolyn, sef Adda ac Efa.
Cafodd Adda ei wneud o "lwch y tir" pan anadlodd Duw fywyd i mewn iddo. Cafodd Efa ei chreu o un o asennau Adda i ddarparu cwmni a chymorth i Adda. Roedden nhw'n byw mewn man arbennig o'r enw gardd Eden. Cafodd y ddau y dasg a'r cyfrifoldeb o ofalu am y lle roedd Duw wedi'i greu iddyn nhw.
Prif wahaniaethau
Mae rhai gwahaniaethau rhwng yr hanesion yn Genesis 1 a 2, er enghraifft y drefn cafodd bodau dynol ac anifeiliaid eu creu:
- Genesis 1 - mae'n datgan bod anifeiliaid, ac yn y diwedd bodau dynol, wedi cael eu creu ar y chweched dydd
- Genesis 2 - mae'n rhoi'r argraff fod bodau dynol wedi eu creu cyn yr anifeiliaid
Mae rhai pobl yn credu bod Genesis 2 yn stori fwy trwyadl o'r chweched dydd.