Natur dynoliaeth
Enaid
Mae Cristnogion yn credu pan fydd y corff cnawdol yn marw bod rhan anghorfforol o’r person yn parhau i fyw. Yr enaid yw’r enw ar hon. Mae Cristnogion yn credu mai rhodd gan Dduw yw'r enaid a'i bod yn anfeidrol. Mae Cristnogion yn credu mai dim ond bodau dynol sy’n meddu ar eneidiau ac mai dyma sy’n gwneud pobl yn unigryw ac arbennig.
Weithiau, mae'r enaid yn cael ei disgrifio fel elfen ysbrydol bodau dynol. Gallai Jeremeia 1:5 awgrymu bod yr enaid yn rhan o ddynol ryw hyd yn oed cyn iddyn nhw gael eu creu, Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm.
Yr enaid fydd yn mynd ymlaen i fywyd ar ôl marwolaeth, hynny yw NefoeddLle neu gyflwr meddwl, sy'n gysylltiedig â Duw a bywyd ar ôl marwolaeth., UffernMan lle bydd pobl sydd wedi drwgweithredu yn cael eu poenydio a'u cosbi. neu PurdanCred Gatholig yn unig. Y man lle bydd yr enaid yn mynd i gael ei lanhau o bechod cyn mynd i'r Nefoedd..
Mae'r enaid a'r corff yn uno i ffurfio un bod dynol. Serch hynny, y gwahaniaeth yw:
- mae'r corff yn meidrolYn gallu marw.
- mae'r enaid yn anfeidrol
Mae gwahaniaethau barn ynghylch beth yn union sy’n digwydd i’r enaid wedi i’r corff dynol farw:
- mae rhai Cristnogion yn credu bod y corff a’r enaid yn esgyn i’r Nefoedd gyda’i gilydd yn ystod yr atgyfodiad
- mae eraill yn credu mai’r enaid yn unig sy’n gadael y corff i ymuno â Duw yn yr atgyfodiad olaf
Yna lluniodd yr Arglwydd Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.
Moesoldeb
Gan mai delwedd o Dduw yw pob bod dynol, mae Cristnogion yn credu bod gan bobl felly ddyletswydd i weithredu a byw bywydau moesol. Cyfeiriad yw hyn at y syniad o fod â synnwyr o dda a drwg. Eto, dim ond gan fodau dynol mae’r moesau hyn, a dyma sy’n gwahanu pobl oddi wrth greaduriaid eraill. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi gwneud y bydysawd yn foesol dda o’r dechreuad.
Gan fod Cristnogion yn rhannu delwedd o Dduw, maen nhw'n credu dylen nhw fyw yn ôl cynllun a bwriad Duw. Bydd hyn yn cynnwys gofalu am y Ddaear yn ogystal â'u bywydau a'u cyrff eu hunain. Dylen nhw fyw mewn ffordd sy'n clodfori yr hyn greodd Duw.
Ewyllys rydd
Mae ewyllys rydd yn cyfeirio at y gallu i ddewis rhwng gwahanol ffyrdd o weithredu posibl.
Mae Cristnogion yn credu bod gan bob person ewyllys rydd ac mai rhodd gan Dduw yw ewyllys rydd, hynny yw bod Duw wedi rhoi i fodau dynol y cyfle i wneud penderfyniadau a dewisiadau. Heb ewyllys rydd, does dim modd disgrifio bodau dynol fel bodau moesol, oherwydd fyddan nhw ddim wedi gwneud dewis ymwybodol i fyw ac ymddwyn mewn ffordd foesol.
Mae enghraifft i'w gweld yn Genesis, lle mae Efa yn cael ei themtio gan y sarff ac, o ganlyniad i’w hewyllys rydd, mae hi’n atebol am ei gweithredoedd. Mae'r Beibl yn dweud yn glir nid yn unig fod gan bobl y gallu i ddewis, ond bod ganddyn nhw hefyd y cyfrifoldeb i ddewis yn ddoeth.
Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid...
Rhesymoledd
Mae rhesymoledd yn cyfeirio at y syniad fod Duw wedi creu bodau dynol yn greaduriaid rhesymol. Mae hyn yn golygu gall bodau dynol ddefnyddio’u gallu i rhesymuY gallu i feddwl a gweithio pethau allan. a gwneud penderfyniadau ar sail y rhesymu hwn.
Yn wahanol i fodau byw eraill, mae gan bobl y gallu i feddwl a deall. Mae hyn yn eu helpu nhw i bwyso a mesur gweithredoedd a'r canlyniadau, drwy ddefnyddio eu cydwybodYmdeimlad (neu 'lais') mewnol sy'n cyfleu beth sy'n gywir neu'n anghywir ar gyfer ymddygiad person. a'u profiad i'w harwain nhw.
Oherwydd yr Arglwydd sy’n rhoi doethineb, ac o’i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
Creadigrwydd
Un o brif bwrpasau bodau dynol yw bod yn greadigol, fel sydd i'w weld yn Genesis 1:28. Creodd Duw fodau dynol i boblogi'r Ddaear gan ddweud: Byddwch ffrwythlon ac amlhewch
. Dyma natur, ac un o brif bwrpasau bodau dynol.
Mae hyn yn cyfeirio at y syniad fod Duw wedi creu bodau dynol gyda’r gallu i greu, sy’n golygu bod gan fodau dynol y gallu i ddefnyddio’r creadigrwydd hwn i’w helpu eu hunain ac eraill i fyw yn y byd hwn.
Un enghraifft o hyn fyddai sut mae bodau dynol wedi defnyddio planhigion ar gyfer cymaint o wahanol ddibenion, megis bwyd, dillad, dodrefn ac adeiladau. Mae’r galluoedd creadigol sydd gennym yn adlewyrchu rhywfaint o natur Duw ei hun.
Colledig
Mae’r term colledig yn ymwneud â’r pechod gwreiddiolTrosglwyddo'r torri a fu ar ymddiriedaeth Duw gan Adda ac Efa i'r ddynoliaeth gyfan., sef y syniad fod pob bod dynol wedi’i eni gyda’r duedd i bechu. Yn ôl traddodiad mae Cristnogion wedi credu bod y pechod gwreiddiol wedi ei greu o ganlyniad i anufudd-dod Adda ac Efa i Dduw wrth iddyn nhw fwyta’r ffrwyth yng ngardd Eden. Mae Cristnogion yn credu bod Adda ac Efa wedi 'colli' eu perffeithrwydd ar ôl bod yn anufudd i Dduw, a'u bod wedi dod â drygioni i fyd perffaith.
Cymerodd yr Arglwydd Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr Arglwydd Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”
Pan bechodd Adda ac Efa yn ngardd Eden, fe wnaethon nhw ddod â phechod i'r byd, ac yn hynny o beth gwahanu bodau dynol oddi wrth Dduw.
Question
Disgrifia'r credoau Cristnogol am natur dynoliaeth.
Mae Cristnogion yn credu bod bodau dynol yn unigryw, gan eu bod wedi’u creu yn ddelwedd o Dduw. Er nad yw'r union ystyr yn glir, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod hyn yn rhoi statws arbennig i fodau dynol yn y creu. Mae Cristnogion hefyd yn credu bod Duw wedi rhoi ewyllys rydd i fodau dynol er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau gwybodus drostyn nhw eu hunain. Bodau dynol hefyd yw’r unig greaduriaid sy’n meddu ar enaid sy'n cael ei hailuno â Duw ar ôl i rywun farw, a dim ond bodau dynol sy'n gallu gwneud penderfyniadau moesol a gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.