Natur DuwY Beibl: dealltwriaeth lythrennol ac anllythrennol

Mae Cristnogion yn credu mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yw creawdwr a chynhaliwr y byd. Maen nhw'n credu bod Duw yn dri Pherson – y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân – sef y Drindod.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Dealltwriaeth lythrennol ac anllythrennol o'r Beibl

Mae ffyrdd gwahanol i ddeall y Beibl.

Mae rhai Cristnogion yn credu dylai hanesion y Beibl, gan gynnwys stori Genesis, gael eu deall yn . Mae hyn yn golygu bod rhaid derbyn hanesion y Beibl fel ffaith, hynny yw bod Duw wedi creu'r byd mewn chwe diwrnod ac wedi gorffwys ar y seithfed dydd, a bod dim modd ystyried damcaniaeth arall neu ddamcaniaeth wyddonol.

Mae llawer o bobl yn credu bod rhaid ystyried hanesion y Beibl o fewn yr amser cawson nhw eu hysgrifennu. Roedd gan awduron y Beibl ddealltwriaeth gyfyngedig o wyddoniaeth a'r byd, felly stori Genesis oedd eu ffordd nhw o geisio egluro yr hyn roedden nhw'n ei gredu.

Mae Cristnogion eraill yn stori Genesis ochr yn ochr â gwyddoniaeth, ac yn rhesymu i geisio deall y brif neges - fod Duw yn gyfrifol am greu'r byd. Efallai bod gwyddoniaeth yn gallu egluro sut cafodd y bydysawd ei greu, ond mae Cristnogion yn credu bod crefydd yn esbonio'r rheswm pam ei fod wedi cael ei greu.

  • Mae Cristnogion sy'n llythrenolwyr yn credu bod Duw wedi creu'r byd yn union fel mae'n ymddangos yn y Beibl, hynny yw bod Duw wedi cymryd chwe diwrnod i greu popeth gan orffwys ar y seithfed dydd.
  • Mae Cristnogion sy'n anllythrenolwyr yn credu bod hanesion y Beibl yn fwy chwedlonol. Yn aml, maen nhw'n cytuno gyda damcaniaethau gwyddonol megis y Glec Fawr, ond yn credu mai Duw achosodd rhain.