Yr Eglwys ar waithSwyddogaethau cymdeithasol a chymunedol

Mae'r cysyniad o'r 'eglwys ar waith' yn cyfeirio at y cymorth a'r gwasanaethau mae'r Eglwys yn gallu eu darparu i Gristnogion, yn ogystal ag i'r rheiny sydd ddim yn Gristnogion. Mae hefyd yn cyfeirio at sut mae'r Eglwys yn gallu helpu o ran yr erledigaeth ar Gristnogion yn y byd modern.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Swyddogaethau cymdeithasol a chymunedol

Mae Cristnogion yn credu mai rhan o'u dyletswydd yw ymddwyn mewn modd , ac mae hyn yn cynnwys helpu pobl eraill o'u cwmpas nhw. Mae'r Eglwys yn gallu chwarae rhan hollbwysig drwy helpu Cristnogion yn ogystal â phobl o Gymru, gweddill y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang sydd ddim yn Gristnogion.

Dyma rai o'r gwasanaethau Cristnogol mae'r Eglwys yn eu darparu:

  • banciau bwyd – lle sy'n cyflenwi bwyd am ddim i bobl sy'n byw mewn tlodi
  • helpu pobl anghenus - er enghraifft mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn Cristnogol sy'n helpu pobl sy'n dioddef
  • helpu pobl ddigartref - er enghraifft mae Housing Justice yn elusen Gristnogol sy'n ceisio sicrhau bod gan bawb gartref

Roedd Iesu yn dysgu pobl ei bod hi'n bwysig helpu pobl eraill lai ffodus na nhw eu hunain.

Dyma pam mae'r Eglwys yn cyflawni'r swyddogaethau ychwanegol hyn.

Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.
Mathew 25:35-36

Mae llawer o ddigwyddiadau sydd ddim yn grefyddol hefyd yn gallu cael eu cynnal mewn eglwys, er enghraiift:

  • cyfleusterau crèche
  • grwpiau ieuenctid
  • mannau cyfarfod cymunedol (er enghraifft dosbarthiadau cadw'n heini)
  • dosbarthiadau addysg i oedolion
  • digwyddiadau elusennol
  • boreau coffi
  • partïon pen-blwydd
  • cyngherddau