Astudiaeth achos – Byddin yr Iachawdwriaeth
enwadCangen o'r Eglwys Gristnogol. Protestannaidd o fewn yr Eglwys Gristnogol yw Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae ganddyn nhw dros 1.6 miliwn o aelodau mewn 109 o wledydd. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn adnabyddus am eu gwaith gyda phobl sy'n wynebu cyfnodau anodd. Maen nhw'n cynnig help i'r canlynol:
- pobl oedrannus
- pobl ifanc
- troseddwyr
- pobl sy'n gaeth i gyffuriau
- pobl ddall ac anabl
Maen nhw hefyd yn darparu bwyd a lloches i bobl ddigartref ac yn cynnal canolfannau dosbarthu bwyd.
Mae gwaith elusennol Byddin yr Iachawdwriaeth yn seiliedig ar ddysgeidiaethau Iesu sydd i'w cael yn y Beibl, ac maen nhw'n gwneud cymaint â phosibl i helpu pobl eraill. Mae aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth yn credu bod gan bawb hawl i hanfodion sylfaenol bywyd:
- bwyd
- dillad
- lloches
- addysg
- gofal iechyd
- amgylchedd diogel
- diogelwch economaidd
- gwaith cynhyrchiol
- cyflogau a budd-daliadau teg
- amodau gwaith gweddus
Caffi Forget Me Not, Wrecsam
Mae eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth yn Wrecsam, gogledd Cymru wedi sefydlu caffi sydd wedi'i gynllunio'n arbennig i helpu pobl sy'n dioddef o ddementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'n cael ei gynnal yn fisol a'i enw yw caffi Forget Me Not.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gofyn i aelodau'r gymuned gyfrannu pethau cofiadwy y bydd pobl sy'n dioddef o ddementia yn debygol o gysylltu â nhw, er enghraifft:
- llyfrau
- toriadau o hen bapurau newydd
- hen ffotograffau

Y Prosiect Bws, Caerdydd
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn defnyddio gwasanaeth y Prosiect Bws i helpu pobl sy'n cysgu ar strydoedd Caerdydd. Mae’n wasanaeth symudol sy'n ceisio atal pobl rhag gorfod cysgu ar y stryd. Bob dydd Llun i ddydd Gwener, mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn parcio bws y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng nghanol Caerdydd ac yn darparu gwasanaethau cymorth i tua 30 o bobl bob nos.
Mae'r Prosiect Bws yn rhan o draddodiad Byddin yr Iachawdwriaeth o fynd allan ar y strydoedd i gyfarfod â phobl mewn angen