Cyfiawnder cymdeithasol
Mae'r term cyfiawnder cymdeithasolHyrwyddo cymdeithas deg drwy herio anghyfiawnder a rhoi gwerth ar amrywiaeth. Sicrhau bod gan bawb yr un mynediad i gyfle a hawliau cyfartal. yn golygu hyrwyddo cymdeithas deg drwy herio anghyfiawnder a gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae hefyd yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal a'r un hawliau â'i gilydd.
Yn anffodus, does dim cyfiawnder cymdeithasol i lawer o bobl yn y byd, a dydy eu hanghenion a'u hawliau sylfaenol ddim yn cael eu bodloni. Mae eglwysi Cristnogol yn cefnogi'r frwydr yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol.
Mae llawer o elusennau a grwpiau Cristnogol sy'n brwydro'n galed i wneud y byd yn lle tecach i bawb.