Astudiaeth achos – Shelter Cymru
Elusen yng Nghymru yw Shelter Cymru, a'u nod yw helpu pobl sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i rywle i fyw.
Eu prif nod yw sicrhau bod gan bawb yng Nghymru amgylchedd sefydlog ac iach i fyw ynddo. Maen nhw'n gweithio gyda phobl ledled Cymru i geisio sicrhau bod pawb yn gallu byw mewn cartref gweddus a diogel.
Arian Ifanc, Abertawe
Prosiect Shelter Cymru wedi'i leoli ym Mae Abertawe yw Arian Ifanc. Mae'n wasanaeth di-dâl sy'n helpu pobl ifanc 16-24 oed gyda'u sgiliau cyllidebu, er enghraifft:
- sut i gynilo a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- awgrymiadau bob dydd ar gyfer cyllidebu ac arian
- sut i fenthyca arian, cyngor am fathau o fenthyca a beth sy'n digwydd os ydyn nhw'n methu taliadau
- cyngor am ddyledion
- esbonio sgorau credyd a sut i'w gwella nhw