Yr Eglwys ar waithAstudiaeth achos – banc bwyd yng Nghymru

Mae'r cysyniad o'r 'eglwys ar waith' yn cyfeirio at y cymorth a'r gwasanaethau mae'r Eglwys yn gallu eu darparu i Gristnogion, yn ogystal ag i'r rheiny sydd ddim yn Gristnogion. Mae hefyd yn cyfeirio at sut mae'r Eglwys yn gallu helpu o ran yr erledigaeth ar Gristnogion yn y byd modern.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Astudiaeth achos – banc bwyd yng Nghymru

Llanfihangel Rhos-y-Corn

Mae eglwys yr Eglwys yng Nghymru yn Llanfihangel Rhos-y-Corn yn Sir Gaerfyrddin yn enghraifft o eglwys leol yng Nghymru sydd wedi sefydlu eu banc bwyd eu hunain.

Maen nhw'n gofyn i aelodau o'r gymuned roi eitemau hanfodol iddyn nhw, er enghraifft:

  • pysgod tun
  • cig tun
  • ffrwythau
  • llysiau
  • te a choffi

Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn gofyn am roddion heblaw bwyd fydd yn helpu pobl mewn angen, er enghraifft:

  • papur toiled
  • cynhyrchion glanhau
  • pethau ymolchi, megis sebon a siampŵ