Yr Eglwys ar waithErlid Cristnogion heddiw

Mae'r cysyniad o'r 'eglwys ar waith' yn cyfeirio at y cymorth a'r gwasanaethau mae'r Eglwys yn gallu eu darparu i Gristnogion, yn ogystal ag i'r rheiny sydd ddim yn Gristnogion. Mae hefyd yn cyfeirio at sut mae'r Eglwys yn gallu helpu o ran yr erledigaeth ar Gristnogion yn y byd modern.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Erlid Cristnogion heddiw

Mae Cristnogion yn cyfeirio at drin Cristnogion yn greulon yn gyson, yn aml oherwydd eu crefydd neu eu credoau.

Dywedodd Iesu wrth Gristnogion am ledaenu gair Cristnogaeth, gan gydnabod y gallai hyn eu rhoi nhw mewn perygl.

A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
Mathew 10:22

Mae Cristnogion yn dal i gael eu herlid o dan rai amgylchiadau yn yr 21ain ganrif oherwydd eu credoau. Un enghraifft yw eglwysi Cristnogol yn cael eu bombio gan eithafwyr.

Mae Christian Freedom International ac Open Doors yn enghreifftiau o fudiadau yn y Deyrnas Unedig sy'n helpu Cristnogion sy'n cael eu herlid. Mae eu gwaith i helpu'r Cristnogion hyn wedi cynnwys:

  • hyfforddi Cristnogion ac arweinwyr eglwysi i'w cefnogi drwy unrhyw drawma maen nhw wedi'i ddioddef
  • darparu cyngor a chefnogaeth i Gristnogion sydd wedi dioddef trychineb
  • siarad ar ran Cristnogion i helpu i godi ymwybyddiaeth o'u sefyllfa