Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigIesu y Gwaredwr

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Iesu y Gwaredwr

Pan mae Cristnogion yn cyfeirio at Iesu fel y Gwaredwr, maen nhw'n cyfeirio at y gred ei fod wedi aberthu ei fywyd ei hun i waredu pechodau bodau dynol. Yr enw ar Iesu yn Hebraeg yw Yeshua, sy'n golygu ‘yr Arglwydd yn gwaredu’. Mae llawer yn credu bod Iesu wedi'i eni ar gyfer y canlyniad terfynol hwn:

Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.
Mathew 1:21

Mae marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn profi i Gristnogion mai ef yw'r Gwaredwr a gafodd ei addo gan Dduw, ac mai ef yw'r ffordd at .

Drwy farwolaeth Crist ar y groes, mae Cristnogion yn cael eu gwaredu oddi wrth ddamnedigaeth dragwyddol ac yn cael gobaith o waredigaeth.

Drwy ei farwolaeth a'i atgyfodiad, gwnaeth Iesu yr iawn am bechodau dynoliaeth, fel eu bod yn gallu â Duw.

Mae Cristnogion yn credu mai Crist yw'r unig ffordd at waredigaeth, a bod gwaredigaeth ar gael i bobl sy'n credu, yn ogystal ag i bobl sydd ddim yn credu. Mae'r Efengyl yn ôl Ioan yn datgan na fyddai dim nac achubiaeth i ddynolryw oni bai bod Duw wedi aberthu ei unig Fab.

Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Ioan 3:16