Iesu y Meseia
Term Hebraeg yw MeseiaMae'r gair yn golygu 'yr eneiniog'. Mae Cristnogion yn credu mai'r Meseia yw'r person gafodd ei anfon gan Dduw i achub dynoliaeth. Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw'r person hwn. ac mae’n golygu ‘yr eneiniog’.
Mae’n deitl sy’n cael ei roi i unigolyn gan bobl sy’n credu mai ef yw’r gwaredwr, ac y bydd yn dod â gwaredigaeth i ddynolryw.
Mae’r term ‘yr eneiniog’ yn cael ei ddefnyddio mewn Cristnogaeth yn ogystal â mewn Iddewiaeth. Mae Cristnogion yn credu bod y Meseia wedi’i anfon gan Dduw i achub dynolryw.
Mae’r prawf mai Iesu yw’r un sydd wedi’i ddewis i’w weld drwy’r Testament Newydd i gyd, er enghraifft y ffaith ei fod wedi atgyfodi ar ôl marw a’i fod wedi cyflawni nifer o wyrthiau.
Cafodd y Meseia ei anfon i achub dynolryw yn ysbrydol, a’i farwolaeth a’i atgyfodiad sy’n rhoi’r waredigaeth hon.
Yn yr Efengyl yn ôl Mathew, mae Pedr yn datgan mai Iesu yw’r Meseia:
Atebodd Simon Pedr, “Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw.
Mae’r datganiad hwn yn cadarnhau i Gristnogion mai Iesu yw’r Meseia. Mewn geiriau eraill, mae’n cadarnhau mai ef yw’r un sydd wedi’i ddewis i’w anfon i wneud ewyllys Duw.
Er na wnaeth Iesu erioed honni mai ef oedd y Meseia, roedd ysgrifenwyr yr Efengylau’n awgrymu bod hynny’n wir.