Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigDuw y Mab

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Duw y Mab

Cafodd Duw y Mab ei anfon i'r Ddaear ar ffurf ddynol i achub bodau dynol. Cafodd ei aberthu dros bechodau dynoliaeth, ac mae hyn yn galluogi dynoliaeth i gael eu haduno â Duw ar ôl marwolaeth. Iesu Grist yw Duw ar y Ddaear:

A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith...
Ioan 1:14
Silwét o Iesu yn erbyn yr awyr ar fachlud haul
Image caption,
Roedd Iesu Grist yn gwbl ddwyfol ac yn gwbl ddynol. Mae hyn yn golygu ei fod yn Dduw yn llawn, ac yn ddynol yn llawn