Yr Ysbryd Glân
Mae rhywfaint o'r dystiolaeth sy'n awgrymu bod Iesu yn ffigwr dwyfolFel duw, neu’n ymwneud â Duw/duwiau. yn dod o nifer o ddarnau yn y Beibl lle mae'r Ysbryd Glân wedi'i gysylltu ag Iesu mewn rhyw ffordd. Mae Cristnogion yn credu:
- bod Iesu wedi ei genhedlu gan yr Ysbryd Glân
- mai'r golomen ym medydd Iesu oedd yr Ysbryd Glân
- bod Iesu yn gallu defnyddio nerth yr Ysbryd Glân i iacháu
Hefyd, mae yna dystiolaeth uniongyrchol bod Iesu yn ffurf ddynol ar Dduw pan mae'n dweud wrth ei ddisgyblion:

Mae colomen, sy'n cynrychioli'r Ysbryd Glân, yn aml i'w gweld mewn dyluniadau ar ffenestri lliw eglwysi
Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi. Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.