Yr Iesu fel Duw YmgnawdoledigCroeshoelio Iesu

Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw Ymgnawdoliad Duw, sy'n golygu Duw yn gnawd. Mae gan Gristnogion wahanol gredoau am yr Iesu, ei eni, ei groeshoelio, ei farw, ei atgyfodiad a'i esgyniad.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Croeshoelio Iesu

Mae croeshoelio Iesu yn ddiweddglo i gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys:

  • mynd i mewn i Jerusalem ar gefn ebol asyn
  • y Swper Olaf
  • brad Jwdas
  • dau dreial

Ar ôl i Iesu gael ei anfon at Pilat, sef rhaglaw Rhufeinig Jwdea ar y pryd, cynigiodd Pilat i'r dyrfa gael dewis pwy i'w gondemnio i farwolaeth, yn ôl y traddodiad. Dewisodd y dyrfa ryddhau Barabbas, troseddwr adnabyddus, ac felly gondemnio Crist i farwolaeth.

Wedi i Iesu gael ei gondemnio cafodd ei chwipio, cafodd ei ddillad eu tynnu a chafodd goron o ddrain a chlogyn i'w gwisgo, wrth i'r tyrfaoedd ei wawdio. Rhoddwyd ei groes iddo i'w chario i Golgotha lle byddai'n cael ei groeshoelio. Syrthiodd Iesu dair gwaith ar y llwybr, a chafodd dyn o'r enw Simon o Cyrene ei orfodi i'w helpu i gario'r groes.

Yn Golgotha, cafodd clogyn Iesu ei rannu ymysg y fintai, a chafodd ei groeshoelio rhwng dau droseddwr ag arwydd yn dweud ‘Brenin yr Iddewon’ uwch ei ben.

Am hanner dydd aeth yr awyr yn dywyll, a thair awr yn ddiweddarach gwaeddodd Iesu, Eli, Eli, lema sabachthani?, hynny yw, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?" (Mathew 27:46).

Cafodd gynnig gwin, ond cymerodd ei anadl olaf a bu farw. Ar yr adeg honno, cafodd y llen yn y deml ei rhwygo'n ddwy a chrynodd y Ddaear.

Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, 'Yn wir, Mab Duw oedd hwn!'
Mathew 27:54