Agape (cariad)
Mae gan y Groegiaid bedwar gwahanol derm i ddiffinio gwahanol fathau o gariad:
- eros – y cariad rhwng pobl sydd mewn cariad â'i gilydd
- philia – cariad tuag at ffrindiau agos
- storge – cariad neu hoffter naturiol rhwng aelodau teulu
- agapeCariad anhunanol, aberthol, diamod. Mewn Cristnogaeth, agape yw'r math uchaf o gariad. Mae'n cael ei gyfleu i'r dim gan aberth yr Iesu ar y groes er mwyn achub dynoliaeth, ac hefyd mewn dysgeidiaethau megis 'Câr dy gymydog'. – cariad diamodHeb unrhyw amodau; absoliwt., cyson
Yn yr ysgrythurau, pan mae Iesu yn sôn am gariad, mae'n golygu cariad agape. Mae'r term agape yn cyfeirio at gariad diamod. Mae Cristnogion yn credu mai dyma'r math uchaf o gariad, ac mai dyma'r cariad sydd gan Iesu at fodau dynol. Mae agape yn golygu teimlo cymaint o gariad at rywun nes dy fod ti'n eu rhoi nhw o dy flaen dy hun.
Mae dysgeidiaeth enwocaf Crist am hyn yn dod o'r Swper Olaf yn yr Efengyl yn ôl Ioan. Mae Iesu yn rhoi ei gorchymynCyfraith neu gyfarwyddyd gan Dduw. olaf i'w apostolion i garu ei gilydd.
Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.
Mae Iesu yn gorchymyn ei apostolion i garu pawb, yn union fel y gwnaeth ef. Mae bod yn un o ddilynwyr Crist yn golygu dangos cariad diamod at bawb, gan gynnwys pobl sy'n gallu cael eu hystyried yn elynion.