Dysgeidiaeth Iesu ar faddeuant
Mae dysgeidiaeth Iesu ar gariad yn gysylltiedig â'i ddysgeidiaeth ar maddeuantRhoi pardwn am ddrygioni - rhoi'r gorau i ddicter a'r awydd i ddial ar ddrwgweithredwr..
Mae maddeuant yn rhan bwysig o Gristnogaeth. Dydy hyn ddim yn golygu bod Cristnogion yn gadael i bobl wneud fel y mynnant, ond eu bod nhw'n gwneud ymdrech fwriadol i faddau ac anghofio'r teimladau sy'n dod wrth ddal dig yn erbyn rhywun.
Mae'r teimladau hyn o ddicter a chasineb yn gallu niweidio'r unigolyn sy'n eu teimlo nhw, felly roedd Iesu yn dysgu pobl i geisio anghofio'r teimladau hyn.
Mae maddeuant hefyd yn golygu bod rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth o'i le yn dangos edifeirwchGofid am rywbeth rwyt ti wedi'i wneud a'r bwriad i ymddiwygio neu newid.. Mae modd gwneud hyn drwy weddïo ar Dduw i ofyn am faddeuant.
Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
Question
Esbonia’r credoau Cristnogol am faddeuant.
Mae Cristnogion yn credu bod maddeuant yn bwysig iawn. Dysgodd Iesu y dylai pobl faddau, ac mae Cristnogion yn ceisio dilyn llwybr Iesu. I gael maddeuant, mae'n rhaid i rywun sydd wedi gwneud rhywbeth o'i le ddangos edifeirwch hefyd. Mae maddeuant yn golygu bod angen i'r dioddefwr anghofio'r teimladau o ddicter a chasineb tuag at rywun sydd wedi pechu yn ei erbyn – oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.
Mae hyn yn dangos i Gristnogion y byddan nhw'n cael eu gwobrwyo am eu maddeuant. Mae'r ddysgeidiaeth gan Iesu carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid
yn atgoffa pobl na ddylen nhw ddal gafael ar deimladau o ddicter a dialedd.