Cylchedau trydanThermistorau ac LDRau

Mae peirianwyr yn cysylltu cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu’n baralel i wneud amrywiaeth o gylchedau defnyddiol. Gallwn gyfrifo'r foltedd, y cerrynt a'r gwrthiant yn y cylchedau hyn.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Thermistorau ac LDRau

Dylet ti allu adnabod symbolau cylched thermistor ac LDR (gwrthydd dibynnol ar olau), a gwybod sut gallwn ni newid gwrthiant y cydrannau hyn.

Thermistorau

Mae thermistorau yn cael eu defnyddio fel synwyryddion tymheredd, er enghraifft, mewn larymau tân. Mewn thermistor, mae’r yn lleihau wrth i’r tymheredd gynyddu.

Symbol safonol am thermistor.

Ar dymheredd isel, mae gwrthiant thermistor yn uchel, ac ychydig iawn o gerrynt sy’n gallu llifo trwyddo.

Ar dymheredd uchel, mae gwrthiant thermistor yn isel ac mae mwy o gerrynt yn gallu pasio drwyddo.

LDRau

Mae LDRau yn cael eu defnyddio i nodi lefelau goleuni, er enghraifft, mewn goleuadau diogelwch awtomatig. Mae eu gwrthiant yn lleihau wrth i arddwysedd y golau gynyddu.

Symbol safonol am wrthydd dibynnol ar olau.

Yn y tywyllwch a phan fydd lefel y golau yn isel, mae gwrthiant LDR yn uchel, ac ychydig iawn o gerrynt sy’n gallu llifo trwyddo.

Mewn golau llachar, mae gwrthiant LDR yn isel ac mae mwy o gerrynt yn gallu llifo trwyddo.

Mae gwrthyddion LDR hefyd yn ddefnyddiol i reoli pa mor hir ddylai'r caead aros ar agor ar gamera digidol. Mae'r camera'n mesur newidiadau gwrthiant ac, os yw lefel y golau'n isel, mae'r caead yn aros ar agor am fwy o amser nag os yw lefel y golau'n uchel.