Cylchedau cyfres a pharalel
Gallwn ni gysylltu'r cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu’n baralel.
Cysylltiadau cyfres
Mae cydrannau sydd wedi’u cysylltu un ar ôl y llall ar un ddolen y gylched wedi’u cysylltu mewn cyfres. Mae’r cerryntLlif o wefrau, er enghraifft, electronau sy’n symud drwy wifren fetel. sy’n llifo drwy bob cydran sydd wedi’i chysylltu mewn cyfres yr un fath.
Dwy lamp wedi’u cysylltu mewn cyfres
Mae'r diagram cylched yn dangos cylched â dwy lamp wedi’u cysylltu mewn cyfres. Os yw un lamp yn torri, ni fydd y lamp arall yn goleuo.
Mae cylchedau cyfres yn ddefnyddiol os wyt ti eisiau rhybudd bod un o gydrannau’r gylched wedi methu. Er enghraifft, mae’n rhaid i dorrwr cylched neu ffiwsCydran drydanol ydy ffiws. Drwy ymdoddi os bydd y cerrynt yn mynd yn rhy fawr, mae'n amddiffyn cylched neu ddyfais drydanol rhag cael ei gorlwytho. gael eu cysylltu mewn cyfres i allu gweithio. Os yw holl oleuadau coeden Nadolig yn diffodd pan fydd un bwlb yn torri, maen nhw wedi’u cysylltu mewn cyfres.
Mae'r cerrynt yr un fath drwy'r gylched i gyd, ac mae'r folteddau'n adio i roi foltedd y cyflenwad.
Cysylltiadau paralel
Mae cydrannau sydd wedi’u cysylltu ar ddolennau ar wahân wedi’u cysylltu mewn paralel. Mae’r cerrynt yn cael ei rannu rhwng pob cydran sydd wedi’i chysylltu mewn paralel. Mae cyfanswm y cerrynt sy’n llifo i’r cysylltle, neu’r hollt, yn hafal i gyfanswm y cerrynt sy’n llifo allan. Mae cadwraeth cerrynt yn digwydd.
Dwy lamp wedi’u cysylltu mewn paralel
Mae’r diagram cylched yn dangos cylched gyda dwy lamp wedi’u cysylltu mewn paralel. Os bydd un lamp yn torri, bydd y lamp arall yn parhau i oleuo.
Mae’r goleuadau yn y rhan fwyaf o dai wedi’u cysylltu mewn paralel. Mae hyn yn golygu eu bod i gyd yn derbyn y foltedd llawn, ac os bydd un bwlb yn torri mae’r bylbiau eraill yn parhau i weithio.
Mewn cylched baralel, mae’r foltedd ym mhob cangen yr un fath ac yn hafal i’r cyflenwad foltedd. Mae swm y cerrynt ym mhob cangen yn hafal i’r cerrynt o’r cyflenwad.
Question
Pa gylchedau yma sydd wedi’u cysylltu mewn cyfres, a pha gylchedau sydd wedi eu cysylltu mewn paralel?
A = cyfres
B = cyfres
C = paralel
Ch = paralel