Cylchedau trydanGwrthyddion mewn cyfres ac yn baralel
Mae peirianwyr yn cysylltu cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu’n baralel i wneud amrywiaeth o gylchedau defnyddiol. Gallwn gyfrifo'r foltedd, y cerrynt a'r gwrthiant yn y cylchedau hyn.
Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu mewn cyfres, bydd y cerrynt drwy bob gwrthydd yr un fath. Mewn geiriau eraill, mae’r cerrynt yr un fath ym mhob man mewn cylched gyfres.
Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu mewn cyfres, mae cyfanswm y foltedd (neu'r gwahaniaeth potensial) ar draws pob gwrthydd yn hafal i gyfanswm y folteddau ar draws pob gwrthydd.
Mewn geiriau eraill, mae’r folteddau o gwmpas y gylched yn adio i roi foltedd y cyflenwad.
Mae cyfanswm gwrthiant nifer o wrthyddion mewn cyfres yn hafal i gyfanswm pob gwrthiant unigol.
Yn y gylched hon, mae'r canlynol yn berthnasol.
I1 = I2 = I3
VT = V1 + V2 + V3
a, RT = R1 + R2 + R3
Gwrthyddion yn baralel
Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu'n baralel, mae cerrynt y cyflenwad yn hafal i gyfanswm y ceryntau drwy bob gwrthydd. Mae'r ceryntau yng nghanghennau cylched baralel yn adio i roi cerrynt y cyflenwad.
Os yw gwrthyddion wedi'u cysylltu'n baralel, bydd y gwahaniaeth potensial ar draws pob un yr un fath. Mae'r gwahaniaeth potensial ar draws unrhyw gydrannau paralel yr un fath.
Er mwyn cyfrifo cyfanswm gwrthiant dau wrthydd sydd wedi'u cysylltu'n baralel, rydyn ni'n defnyddio'r hafaliad hwn.