Cylchedau trydanPŵer

Mae peirianwyr yn cysylltu cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu’n baralel i wneud amrywiaeth o gylchedau defnyddiol. Gallwn gyfrifo'r foltedd, y cerrynt a'r gwrthiant yn y cylchedau hyn.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Pŵer

Pŵer yw'r egni sy'n cael ei drosglwyddo bob uned amser.

\(\text{egni}={\text{pŵer}}\times{\text{amser}}\)

\(\text{E}={\text{Pt}}\)

neu

\(\text{pŵer =}~\frac{\text{egni}}{\text{amser}}\)

Rydyn ni'n mesur pŵer mewn watiau (W), egni mewn jouleau (J) ac amser mewn eiliadau (s).

1 W = 1 J/s

(Mae 1 wat yn 1 joule yr eiliad.)

Gallwn ni ddefnyddio'r hafaliad hwn i gyfrifo pŵer trydanol.

\(\text{pŵer}={\text{foltedd}}\times{\text{cerrynt}}\)

P = V × I

Cofia, V = I × R, felly drwy amnewid am V, gallwn ni ysgrifennu'r hafaliad fel

P = I × I × R

Gallwn ni hefyd ysgrifennu hyn fel P = I2 R.

Question

Cyfrifa'r pŵer mae gwrthydd 33 Ω yn ei wrth i gerrynt o 2 A lifo drwyddo.