Mae peirianwyr yn cysylltu cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu’n baralel i wneud amrywiaeth o gylchedau defnyddiol. Gallwn gyfrifo'r foltedd, y cerrynt a'r gwrthiant yn y cylchedau hyn.
Mae angen i ti wybod sut i fesur y cerrynt sy'n llifo drwy gydran mewn cylched a'r foltedd ar ei thraws.
Figure caption,
Mae’r amedr a’r lamp mewn cylched gyfres
Mesur cerrynt
Mae cerrynt yn cael ei fesur mewn amperau. Mae amper yn aml yn cael ei dalfyrru i amp neu A. Amedr sy’n cael ei ddefnyddio i fesur y cerrynt sy’n llifo drwy gydran mewn cylched.
Cofia, mae'r cerrynt yr un fath ym mhob rhan o gylched gyfres.
Foltedd
Mae angen gwahaniaeth potensialY foltedd rhwng dau bwynt sy’n gwneud i gerrynt trydan lifo rhyngddynt. ar draws cydran drydanol fel bod cerrynt trydan yn gallu llifo ynddi. Mae batrïau neu gelloedd yn darparu’r gwahaniaeth potensial sydd ei angen yn aml.
Mesur foltedd
Mae gwahaniaeth potensial yn cael ei fesur mewn foltiau, (V).
Figure caption,
Mae’r foltmedr yn baralel â’r lamp
Mae foltmedr yn cael ei ddefnyddio i fesur y gwahaniaeth potensial ar draws cydran mewn cylched.
Mae’n rhaid i’r foltmedr gael ei gysylltu yn baralel â’r gydran.