Mae peirianwyr yn cysylltu cydrannau mewn cylchedau trydanol mewn cyfres neu’n baralel i wneud amrywiaeth o gylchedau defnyddiol. Gallwn gyfrifo'r foltedd, y cerrynt a'r gwrthiant yn y cylchedau hyn.
Math cyffredin o fwlb golau yw’r lamp ffilament. Mae’n cynnwys coil tenau o wifren - y ffilament. Mae hwn yn poethi wrth i gerrynt trydanol lifo drwyddo ac, o ganlyniad, mae’n cynhyrchu golau.
Bydd cymryd parau cyfatebol o werthoedd V ac I o'r graff ar wahanol folteddau yn rhoi gwahanol werthoedd gwrthiant. Bydd y gwrthiant yn uwch os yw'r foltedd yn uwch.
Dydy'r lamp ffilament ddim yn ufuddhau i Ddeddf Ohm. Mae ei gwrthiant yn cynyddu wrth i dymheredd ei ffilament gynyddu. Felly, dydy’r cerrynt sy'n llifo drwy lamp ffilament ddim mewn cyfrannedd union â’r foltedd ar ei thraws.
Deuodau
Cydrannau electronig yw deuodau. Maen nhw’n cael eu defnyddio i reoli’r gwahaniaeth potensial mewn cylchedau ac i wneud adwyon rhesymeg. Mae deuodau allyrru golau (LED) yn goleuo ac rydyn ni'n aml yn eu defnyddio nhw ar gyfer goleuadau mewn cyfarpar trydanol fel cyfrifiaduron a setiau teledu.
Dylet ti allu adnabod graff cerrynt yn erbyn foltedd ar gyfer deuod.
Mae gan y deuod wrthiant uchel iawn mewn un cyfeiriad. Mae hyn yn golygu bod cerrynt ond yn gallu llifo i’r cyfeiriad arall. Dyma’r graff o gerrynt yn erbyn gwahaniaeth potensial ar gyfer deuod. Fel arfer, fydd deuod ddim yn dargludo o dan foltedd penodol.