Ysgrifennu a gwerthuso theatrArddull ysgrifennu a geirfa

Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Arddull ysgrifennu a geirfa

Mae darllen adolygiadau beirniaid proffesiynol yn dangos bod cyfle i fod yn greadigol wrth ysgrifennu adolygiad. Mae modd cyfoethogi darn ffeithiol gyda geirfa dda, ansoddeiriau, ac o’u defnyddio’n ofalus, trosiadau a chyffelybiaethau. Mae ansoddeiriau’n bwysig am eu bod nhw’n dy helpu i fynegi dy farn bersonol yn effeithiol. Ond bydd yn ofalus nad ydy’r hyn rwyt ti’n ceisio’i ddweud yn cael ei golli yn dy ymdrech i fod yn awdur creadigol. Cadwa dy frawddegau’n fyr ac yn bwrpasol.

Mae’r beirniaid gorau’n mynegi eu barn yn glir ac yn ddifyr i’w darllenwyr fel mae’r adolygiad hwn o Y Gwyll yn ei ddangos:

Yn syth o’r olygfa gyntaf un mae dylanwad dramâu Sgandinafaidd, Wallander yn enwedig, yn amlwg. Mae o i’w weld yn y gwaith camera sy’n ysgubo ar draws y dirwedd anial, yn ystafell ymchwiliad tywyll, diffenestr yr heddlu a hyd yn oed yn y Volvo mae Tom Mathias yn ei yrru – yr un Volvo â Wallander dwi’n tybio.
Golwg Hydref 30, 2013

Ceisia amrywio dy ddisgrifiadau a dy ansoddeiriau ym mhob adolygiad y byddi di’n ei ysgrifennu gan wrthsefyll y demtasiwn i fod yn fformwläig. Mae rhywun yn siŵr o sylwi os byddi di’n torri corneli. Dyma rai termau defnyddiol i’w cofio wrth ysgrifennu.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Casgliad o dermau: amcan / pwrpas / rhesymwaith / rheswm / tensiwn / uchafbwynt / gwrth-uchafbwynt / heriol,

Felly cofia:

  • paid ag adrodd stori’r ddrama – mae rhoi’r yn ddigon
  • gwna’n siŵr dy fod yn cyfeirio at amrywiaeth o gyfryngau ac elfennau drama
  • cadwa dy ysgrifennu a dy frawddegau’n ysgafn - paid â chrwydro nag ailadrodd dy hun
  • mae modd i ti fod yn greadigol, ond cofia wneud dy bwyntiau’n glir
  • rho dy farn dy hun ond gan ei chyfiawnhau gydag enghreifftiau i gefnogi dy ddadleuon
  • strwythura dy waith i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr
  • cofia dy fod yn gwerthuso’r cynhyrchiad, ac nid y ddrama
  • ysgrifenna mewn ffordd gadarnhaol, gyda thôn broffesiynol