Gwisg mewn drama
Mae gwisgoedd yn rhan o cysyniadSyniad canolog mewn darn o waith. Gall gwaith penodol ymchwilio i gysyniad, ee cariad, breuddwydion, oferedd rhyfel. dylunio cyffredinol unrhyw gynhyrchiad a dylid rhoi ystyriaeth ofalus iddyn nhw wrth gynllunio’r cynhyrchiad. O ganlyniad dylen nhw gyfrannu rhywbeth at y cynhyrchiad. Ar un eithaf gallen nhw fod yn rhan o gynllun lliwiau cymhleth sy’n cyfleu neges fel rhan o’r cynhyrchiad. Ar y llaw arall gallai’r perfformwyr fod mewn dillad stryd sy’n gweddu i’r cymeriadau maen nhw’n eu chwarae, sy’n effeithiol gan nad ydyn nhw’n tynnu sylw.
Y ffordd orau o ddisgrifio gwisg ydy'r hyn mae actorion yn ei wisgo yn ystod y perfformiad. Mae crysau-t du a jîns, gwisgoedd cyfnod, dillad ymarfer a dillad bob dydd yr actorion eu hunain i gyd yn wisgoedd ac yn haeddu cael eu trafod.

Wrth ysgrifennu am wisgoedd, dylet ti nodi’r cyfraniad mae gwisgoedd yn eu gwneud at sioe neu waith perfformiwr unigol. Ysgrifenna’n fanwl am y wisg a’i heffaith. Serch hynny, er bod angen i ti fod yn benodol does dim angen manylion cynhwysfawr. Oni bai dy fod yn creu datganiad ar bwyntiau penodol, mae’n ddigon rhoi cyfeiriad megis ‘gwisg ddilys o Oes Elisabeth I’ neu ‘dillad swyddfa smart’. Os ydy’r ffaith fod actor yn gwisgo dillad coch yn bwysig, bydd angen i ti ddweud hynny ond hefyd bydd angen dweud pam.
Os byddi di’n ysgrifennu am dy ddewis di dy hun o wisg mewn drama, cofia fod angen i ti gyfiawnhau dy ddewis o ddillad, lliw a defnydd gan ddisgrifio’n glir yr eitemau sy’n cyd-fynd â chyfnod neu amser y ddrama.
Mae gwisgoedd yn cael eu defnyddio’n wahanol hefyd yn ôl arddull y ddrama. Er enghraifft, os bydd y ddrama mewn arddull ‘Frechtaidd’, mae’n bosibl y bydd y wisg yn syml ac yn gynrychioliadol, ee het i nodi newid cymeriad, ond os ydy hi’n ddrama naturiolaidd, dylai’r wisg fod mor ddilys â phosib.
Mae’n syniad da i rai dramâu ddefnyddio gwisgoedd ymarfer oherwydd mae rhai gwisgoedd yn effeithio ar symudiad ac mae angen ymarfer y symudiad hwnnw.
Gwisg a chymeriadu
Yn y clip hwn sylwa sut mae’r dylunwyr yn ystyried sut dylai’r dewisiadau gwisg adlewyrchu’r math o gymeriad maen nhw’n ei wisgo. Y rheswm am hyn ydy bod gwisg yn rhoi llawer o wybodaeth i’r gynulleidfa am y cymeriad cyn i’r actor ddechrau siarad. Mae’n hawdd dweud os ydy cymeriad yn gyfoethog neu’n dlawd, yn swil neu’n allblyg, yn ffasiynol neu beidio wrth edrych ar ei wisg.
Clip Saesneg o lle mae dylunwyr gwisgoedd yn esbonio eu syniadau ar gyfer dehongliad cyfoes o ddrama Shakespeare.