Mae dewis y gwisgoedd cywir ar gyfer cymeriadau yn hollbwysig mewn dramâu cyfnod a rhai modern. Dylen nhw fod yn addas i gyfnod a diwylliant y ddrama ac i statws y cymeriadau.
Os wyt ti’n mwynhau gwylio Doctor Who, mae’n siŵr fod gen ti dy hoff ddihirod - y Cybermen efallai, neu’r Daleks. Mae gwisgoedd o’r fath yn gwneud datganiad mor fawr fel mai dyma ydy prif elfen y rôl ac mae’r actor yn dod yn rhan o’r peirianwaith. Weithiau, mae lleisiau’n cael eu newid yn electronig. Mae’n werth nodi sut mae’r gwisgoedd hyn yn effeithio ar y perfformiad ac yn ei gyfoethogi os ydy hynny’n briodol. Byddai gwisg fetel y Cyberman yn ei gwneud yn hawdd symud mewn modd mecanyddol nad yw’n ddynol.
Image caption,
Dalek o raglen arbennig hanner canmlwyddiant Doctor Who, BBC 2013
Math arall o wisg ffantasi ydy ffrogiau hen ferch (y dame) mewn pantomeim. Mae’r rhain yn debygol o fod yn fersiynau o ffasiynau neu wisgoedd wedi’u gorwneud gyda lliwiau sydd dros ben llestri. Ydyn nhw’n gwneud i ti wenu pan fyddi di’n eu gweld nhw? Ydyn nhw wedi eu cynllunio i gynorthwyo gyda golygfeydd comedi penodol?