Gwisgoedd o ddiwylliannau eraill
Os oes angen gwisgoedd o ddiwylliant arall ar ddrama, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu gwneud yn iawn. Ym mhob gwlad yn y byd rydyn ni’n derbyn bod ein dillad ni ein hunain yn naturiol ac rydyn ni’n edrych yn fwy beirniadol ar ddillad cenhedloedd eraill. Os byddi di am bortreadu geishaMerch o Japan sydd wedi ei hyfforddi i fod yn ddiddanwraig a gwesteiwraig draddodiadol. o Japan er enghraifft, rhaid i ti dalu sylw i’r manylion, ac os byddi di’n gwneud sylw ar wisg o’r fath, dylet ti ystyried a oedd yn argyhoeddi a beth oedd yn ei hychwanegu at y rôl.

Mewn geiriau eraill, dylai fod yn bortread gwir. Cofia hefyd fod colur yn allweddol i’r modd y mae cynulleidfa’n ‘darllen’ ac yn adnabod cymeriad. Enghraifft amlwg fyddai’r clown yn y cynhyrchiad Pridd gan y Theatr Genedlaethol. Darllena Cyfrwng drama i ddysgu mwy.

Gwisgoedd cyfnod
Mae’r term gwisgoedd cyfnod yn cyfeirio at wisgoedd mewn cyfnod penodol. Yn gyffredinol mae disgwyliadau llawer mwy penodol gyda chymeriadau cyfoethog o gymharu â rhai tlawd neu’r werin. Enghreifftiau o hyn ydy dwbled a chylchbais TuduraiddDillad o oes y Tuduriaid (1485-1603). Siaced dynn i ddynion ydy dwbled. Sgert gylchol i fenywod ydy cylchbais. o oes y TuduriaidY cyfnod 1485-1603 pan oedd aelodau o deulu brenhinol y Tuduriaid yn frenin neu'n frenhines Lloegr. a’r crinolin o gyfnod FictoriaPais wedi ei hatgyfnerthu, neu gawell dur, sy'n rhoi siâp fel cloch i sgert.. Byddai dynion yng nghyfnod y RhaglywiaethY cyfnod (1811-1820) pan oedd Tywysog Cymru yn teyrnasu yn lle ei dad, y brenin Siôr y Trydydd, gan nad oedd hwnnw yn gymwys i deyrnasu., fel y’u portreadwyd yng ngwaith yr awdur Jane Austen, yn gwisgo cotiau cynffon a llodrau. Byddai gan fenywod y cyfnod amryw o wisgoedd ar gyfer gwahanol achlysuron, ee ‘gŵn ymweld’ a ‘ffrogiau cerbyd’.
