Creu gwisg
Fel arfer bydd y dylunwyr gwisgoedd yn cyflwyno darluniau i’r cyfarwyddwr i ddangos eu syniadau am sut y dylid gwisgo’r cymeriad. Mae hyn yn golygu bod cyfarwyddwr yn gallu ‘gweld’ y cymeriad a gallan nhw wneud awgrymiadau pellach. Edrycha ar y braslun hwn gan y dylunydd gwisgoedd, Ray Holman, ar gyfer portread yr actor Matt Smith o Doctor Who. Sylwa ar y dickie bow, elfen unigryw sy’n perthyn i wisg y fersiwn hwn o’r Doctor yn unig. Ydy’r wisg a’r dewis o ffabrig yn adlewyrchu persona’r cymeriad yn gywir yn dy farn di? Os felly, pam?

Gwisgoedd a symudiadau
Un ystyriaeth bwysig ydy a ydy’r actor yn symud yn briodol. Dychmyga’r effaith y byddai staesDilledyn tynn sy'n gwasgu ac yn dal y corff mewn siâp arbennig. esgyrn morfil yn ei gael ar dy allu i ymlacio mewn cadair, neu sut fyddet ti’n mynd drwy ddrws cul mewn sgert lydan o’r 18fed ganrif. Wrth wylio drama mewn gwisgoedd cyfnod, dylai fod gen ti ddiddordeb gweld pa mor dda mae’r perfformiwr yn trin y wisg a hefyd ydy’r cyfyngiadau mae’n gweithio gyda nhw yn effeithio ar yr hyn sy’n digwydd yn y ddrama. Enghraifft dda fyddai’r ffon fyddai fwy neu lai’n ffurfwisg i ddynion mewn comedïau cyfnod y RhaglywiaethY cyfnod (1811-1820) pan oedd Tywysog Cymru yn teyrnasu yn lle ei dad, y brenin Siôr y Trydydd, gan nad oedd hwnnw yn gymwys i deyrnasu. yn yr 17eg ganrif.

Roedd dramodwyr megis William Congreve yn rhoi llinellau doniol iawn i’r cymeriadau gwrywaidd ac mae angen ystum gosgeiddig i sicrhau’r effaith orau. Yn ei gomedi moesau, The Way of the World, a ysgrifennwyd yn 1700, mae un cymeriad o’r fath yn ffrwydro mewn modd treisgar. Byddai’r cymeriad yn tynnu cleddyf o’i ffon gan bwysleisio’r trais hwnnw a’r ffordd roedd ymddygiad cymdeithas wâr yn ei guddio.
Dillad cyffredin
Wrth ysgrifennu am actorion sy’n perfformio mewn dillad cyfoes cyffredin galli di ddefnyddio’r ymadroddion hyn:
- dillad swyddfa
- dillad hamdden
- dillad parti
- gwisg ffurfiol (i briodas neu angladd)
- dillad gwaith
- ffurfwisg
Serch hynny, paid â meddwl nad oes dim byd i’w ddweud am ddillad cyffredin. Mae angen dewis gwisg fel hyn yn ofalus iawn i greu’r argraff gywir o’r cymeriad. Meddylia i ble byddi di’n mynd i brynu dy ddillad. Ydy dy ffrind di’n mynd i’r un lle? Ydy dy rieni? Dy fam-gu a dy dad-cu?
Dylai meddwl am y pethau hyn wneud i ti sylweddoli bod dillad yn dweud pethau penodol iawn am unigolyn a bod rhaid eu dewis yn ofalus ar gyfer y cymeriad a’r sefyllfa. Fyddai fest ar gyfer y traeth ddim yn wisg addas ar gyfer derbynnydd mewn swyddfa smart. Mae gwisg yn adlewyrchu personoliaeth y cymeriad sy’n ei gwisgo ond hefyd cyfnod, arddull a ‘theimlad’ y cynhyrchiad.
Hetiau, siolau, ffyn ac ymbareli
Ai gwisgoedd neu bropiau ydy’r rhain? Y ddau mewn gwirionedd. Mae ffon yn gallu bod yn rhan o wisg a chael ei defnyddio fel prop. Felly galli di ddisgrifio rhywbeth fel ymbarél neu ffon fel rhan o wisg os bydd hynny’n addas. Ni fyddai Doctor Who yn Doctor Who heb ei sonic screwdriver.