Swyddogaeth mynegiant yr wyneb
Mae mynegiantFfordd o ddangos ystyr i'r gynulleidfa drwy ddefnyddio'r corff, yr wyneb a'r llais. yr wyneb yn cyfleu emosiwn sy’n dweud wrthon ni am y cymeriad a sut mae’n ymateb i sefyllfa. Gall hefyd ddweud rhywbeth wrthon ni am y sefyllfa honno, ee os ydy’r cymeriad yn cael ei synnu gan ddigwyddiad. Yn ogystal mae mynegiant yr wyneb yn gallu cyfleu gwir deimladau’r cymeriad. Gall cymeriad ddweud rhywbeth canmoliaethus wrth gymeriad arall ond pan fydd yn rholio ei lygaid gallwn weld ei wir emosiwn. Felly gallai fod is-destunYr ystyr y tu ôl i beth sy'n cael ei wneud neu ei ddweud. Teimladau gwirioneddol cymeriad - teimladau nad ydy’r cymeriad o reidrwydd yn eu dangos na'u mynegi wrth gymeriad arall. neu ystyr ddyfnach i’w gweld ym mynegiant wyneb yr actor sy’n gwrth-ddweud yr hyn mae’n ei ddweud neu’n ei wneud mewn golygfa.
Pwysigrwydd mynegiant yr wyneb
Mae mynegiant yr wyneb yn elfen o grefft yr actor. Mae’n rhywbeth rwyt ti’n gallu ei wneud i greu perfformiad. Pan fyddi di’n gwerthusoMeddwl am gryfderau a gwendidau darn o waith, gan ddadansoddi sut a pham roedd rhywbeth yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus mewn ymarfer neu berfformiad. gwaith perfformio, boed yn rhywbeth y byddi di wedi ei weld neu’n rhywbeth y byddi di wedi ei wneud, mae angen i ti edrych ar bob agwedd sy’n cyfrannu at y perfformiad cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys disgrifio mynegiant yr wyneb yn fanwl a sut mae hyn yn cyfoethogi’r gwaith. Cofia, mae mynegiant yr wyneb yn gallu dangos gwir deimladau person. Gall cymeriad fod yn canmol cymeriad arall yn eiriol ond os bydd yn rholio ei lygaid neu’n crechwenu, mae hyn yn newid yr is-destun yn llwyr. Mae angen mwy o fynegiant yr wyneb ar y llwyfan nag wrth actio ar y sgrin gan fod y gynulleidfa’n bellach i ffwrdd.
Emosiwn a hwyliau
Teimlad ydy emosiwn, a hwyliau ydy’r cyflwr mae rhywun ynddo, sy’n gysylltiedig â’r teimlad hwnnw. ‘Rwyf i’n teimlo’n hapus, felly rwyf i mewn hwyliau da.’ Dyma beth mae mynegiant yr wyneb yn ei ddatgelu gan amlaf. Meddylia am y geiriau gwahanol sydd ar gael a cheisia ddefnyddio gair diddorol a chywir am yr hyn rwyt ti am ei fynegi.